Mae Cowbois Rhos Botwnnog wedi rhyddhau eu hail sengl mewn cwta bythefnos, gydag addewid o albwm llawn i ddilyn yn 2024.
‘Adenydd’ ydy’r trac diweddaraf gan y band tri brawd o Ben Llŷn ac mae ar gael ar safle Bandcamp Cowbois Rhos Botwnnog nawr.
Daw’r sengl ddiweddaraf yn dynn ar sodlau’r trac ‘Clawdd Eithin’ a ryddhawyd ar 18 Gorffennaf – dyma oedd cynnyrch newydd cyntaf y band ers sawl blwyddyn.
Yn wir, mae saith blwyddyn ers i Cowbois Rhos Botwnnog ryddhau eu halbwm diwethaf, sef ‘IV’, a ryddhawyd ar label Sbrigyn Ymborth yn 2016. Hon oedd pedwerydd albwm stiwdio’r band.
Ond, ni fydd rhaid aros yn hir nes eu record hir nesaf yn ôl pob golwg wrth iddynt gyhoeddi bod y ddwy sengl ddiweddar yn damaid i aros pryd nes albwm llawn fydd allan y flwyddyn nesaf.
Yn ôl y band mae llawer o’r caneuon fydd ar eu pumed albwm yn ymwneud â Phen Llŷn, lle magwyd y triawd, ac sydd wrth gwrs yn gartref i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
“Mae hi wedi bod mor braf gallu gweithio ar gerddoriaeth hefo’n gilydd eto, ac er nad oedden ni wedi bwriadu cymryd saib mor hir, mi fydd wyth mlynedd wedi pasio ers y ddiwethaf – rhy hir i ni, a rhy hir i’n gwrandawyr debyg” meddai’r band.
“Felly dyma’n comeback record, am wn i, a dechrau cyfnod newydd yn ein hanes ni fel band.”
“Mae hon [‘Adenydd’] yn gân am ddau beth ar unwaith. Ar un lefel, mae hi’n gân serch, ond ar lefel arall, mae hi’n ymwneud â’r broses o ysgrifennu, a’r teimlad o fethu â chanfod y geiriau iawn – rhywbeth sydd wastad wedi bod yn broblem i mi, a’r prif reswm ein bod ni mor araf yn rhyddhau pethau newydd!
“Mae hi’n fwy canu gwlad na’r rhan fwyaf o bethau da ni wedi’u gwneud, sydd wedi bod yn braf, ‘da ni gyd yn caru canu gwlad, ond dyma’r tro cyntaf i fynd ‘full country’ ers ‘Paid â Deud’ nôl yn 2008!”
Roedd cyfle i weld y band yn perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau yn ddiweddar, a bydd modd eu gweld yn perfformio ar nos Lun yr Eisteddfod yn gig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng ngwesty’r Nanhoron yn Nefyn.
Dim ond ar safle Bandcamp Cowbois Rhos Botwnnog mae modd cael gafael ar y ddwy sengl newydd ar hyn o bryd, ond yn ôl Sbrigyn Ymborth byddan nhw’n ymddangos ar y prif lwyfannau digidol arferol yn fuan hefyd.