Adwaith ar daith gyda Pillow Queens

Mae Adwaith ar daith gyda’r band Gwyddelig Pillow Queens dros yr wythnos nesaf.

Mae’r band roc indie o Ddulun ar daith ers dechrau’r mis ac eisoes wedi perfformio mewn gigs yn Ffrainc ac Yr Almaen wythnos diwethaf.

Bydd Adwaith yn ymuno â nhw fel cefnogaeth ar gyfer cymal Prydeinig y daith gyda gig cyntaf yn 100 Club, Llundain ar nos Lun 13 Tachwedd, cyn symud ymlaen i chwarae yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd y noson ganlynol.

Byddan nhw hefyd yn perfformio yn The Crescent, Efrog ar 15 Tachwedd ac yn Future Club, Birkinhead ar 17 Tachwedd.