Mae Adwaith yn grŵp Cymraeg sydd â dipyn o brofiad o berfformio dramor bellach, ond byddan nhw’n chwarae eu gig cyntaf yn Yr Iseldiroedd nes mlaen ym mis Ionawr.
Bydd Adwaith yn perfformio yn lleoliad Cinetol yn Amsterdam ar 19 Ionawr mewn gig a drefnir gan yr hyrwyddwyr amlwg o’r ddinas, Paradiso.