Adwaith yn Glastonbury

Mae wedi’i gyhoeddi y bydd Adwaith yn perfformio yng Ngŵyl Glastonbury eleni.

Bydd y band o Gaerfyrddin yn perfformio ar lwyfan Croissant Neuf yn yr ŵyl enwog, sef llwyfan sy’n cael ei bweru gan ynni solar.

Cynhelir yr ŵyl enwog unwaith eto eleni ar Fferm Worthy Farm a hynny ar 21-25 Mehefin. Mae’r llwyfan Croissant Neuf yn ardal Field Of Avalon yr ŵyl ac mae eisoes wedi’i ddatgelu y bydd  Melanie C, Will Young, Jake Shears, Laura Mvula, Beans On Toast, a The Damned wedi’u cadarnhau fel perfformwyr yn yr ardal yma hefyd.