Agor cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Gwerin 

Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cystadleuaeth newydd ar gyfer 2023 sef Brwydr y Bandiau Gwerin. 

Mae’r Eisteddfod yn cyd-weithio gyda BBC Cymru ar y gystadleuaeth newydd gyda’r nod o ddarganfod talent cerddoriaeth gwerin Gymraeg newydd. 

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth ydy 1 Mai 2023, ac mae gofyn i unrhyw un sydd am gystadlu gyflwyno demo neu recordiad fideo o set hyd at 15 munud, gan gynnwys rhwng 2 a 4 cân erbyn y dyddiad hwnnw.

Ar ôl hynny bydd y beirniaid, sef Gwilym Bowen Rhys a Lleuwen Steffan, yn dewis pedwar band neu artist fydd yn mynd ymlaen i’r rownd nesaf. 

Bydd y pedwar sy’n cael eu dewis yn cael cyfle i recordio dwy gân mewn set byw yng Nghlwb Ifor Bach ac mewn lleoliad yng ngogledd Cymru, gyda’r caneuon hyn yn cael eu darlledu ar Radio Cymru ac ar-lein cyn yr Eisteddfod. Byddan nhw hefyd yn cael cyfle i berfformio set byw 20 munud o hyd yn lleoliad Tŷ Gwerin ar ddydd Mawrth 8 Awst. 

Mae’r gystadleuaeth yn agored i fandiau neu artistiaid unigol sy’n perfformio cerddoriaeth werin boed yn ganeuon offerynnol, lleisiol neu gyfuniad o’r ddau. Mae ‘gwerin’ yn cael ei ddiffinio fel caneuon ac alawon traddodiadol Cymreig, neu ganeuon newydd yn y dull gwerinol. 

Bydd gwobr o £600 i enillydd y gystadleuaeth ac mae mwy o wybodaeth ar wefan y Steddfod