Mae’r enwebiadau Gwobrau Gwerin Cymru 2023 bellach ar agor.
Lansiwyd y gwobrau yn 2019 gan Trac mewn cydweithrediad â Radio Cymru, Radio Wales a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Bryd hynny roedd Lleuwen, VRï, Gwilym Bowen Rhys a Lleuwen ymysg yr enillwyr mewn noson arbennig a gynhaliwyd yn Neuadd Hoddinott, Canolfan Mileniwm Cymru.
Ers hynny, ni fu modd cynnal yr achlysur oherwydd y pandemig, ond fe fydd yn dychwelyd yn ystod y gwanwyn eleni ac mae’r trefnwyr yn gwahodd y cyhoeddi i gynnig eu henwebiadau ar gyfer deg o gategorïau.
Mae unrhyw drac/act/perfformiad/neu albwm gwerin Cymraeg a ryddhawyd rhwng 1 Ionawr 2019 a 31 Rhagfyr 2022 yn gymwys ar gyfer enwebiad.
Unwaith bydd yr enwebiadau’n cau, bydd cant o gynrychiolwyr o wyliau cerddoriaeth, lleoliadau gigs, hyrwyddwyr a’r cyfryngau yn ffurfio Panel Rhestr Hir er mwyn dewis rhestrau byr o’r enwau sydd wedi’u cynnig. Wedi hynny bydd panel o saith beirniad annibynnol o’r byd gwerin yn dewis enillydd o bob categori.
Bydd noson wobrwyo’n cael ei chynnal unwaith eto yn Neuadd Hoddinott y BBC yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ar 20 Ebrill, gyda pherfformiadau byw gan rai o’r enillwyr.
Dyma restr lawn o gategorïau Gwobrau Gwerin Cymru 2023:
- Y Gân Gymraeg Traddodiadol Orau
- Y Gân Saesneg Gwreiddiol Orau
- Y Gân Gymraeg Gwreiddiol Orau
- Y Trac Offerynnol Gorau
- Yr Artist/Band Gorau sy’n dechrau dod i’r amlwg
- Yr Artist Unigol Gorau
- Yr Albwm Gorau
- Y Perfformiad Byw Gorau
- Y Grŵp Gorau
- Dewisiad y Werin