Mae cylchgrawn a gwefan cerddoriaeth Y Selar wedi agor yr enwebiadau cyhoeddus ar gyfer Gwobrau’r Selar eleni.
Yn ôl yr arfer, mae cyfle i bawb sy’n dilyn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg gynnig enwau ar gyfer yr amrywiaeth o gategorïau.
Bydd yr enwebiadau’n cau ar 23 Rhagfyr, ac ar ôl hynny bydd panel Gwobrau’r Selar yn trafod a phenderfynu pa enwau fydd yn cyrraedd y rhestrau hir y tro yma. Y cyhoedd fydd yn cael y gair olaf fel arfer, a bydd pleidlais gyhoeddus gyda chyfle i bawb ddewis o’r rhestrau hir yn agor yn fuan yn y flwyddyn newydd.
Mae modd i unrhyw un enwebu ar gyfer categorïau Gwobrau’r Selar ar wefan Y Selar nawr.
Does dim angen enwebiadau ar gyfer categorïau Record Hir a Record Fer y flwyddyn gan bod yr holl albyms ac EPs cymwys yn cael eu cynnwys ar y bleidlais gyhoeddus. Ond mae’r Selar yn awyddus i glywed barn y cyhoedd ar bwy ddylai gael eu hystyried ar gyfer y categorïau eraill fel Digwyddiad Byw, Band Gorau a Seren y Sin.
Mae unrhyw gynnyrch Cymraeg a ryddhawyd am y tro cyntaf yn ystod 2023 yn gymwys, ac unrhyw artistiaid neu fandiau a grëodd argraff dros y flwyddyn. Mae modd gweld y canllawiau’n llawn ar wefan Y Selar.