Mae pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar nawr ar agor.
Mae Y Selar yn cynnal gwobrau blynyddol ers 2009, gyda’r cyhoedd a darllenwyr Y Selar yn benodol, yn pleidleisio dros enillwyr y categorïau.
Bydd hynny’n wir eto eleni gyda’r cyhoedd yn gyfrifol am ddewis enillwyr 9 o gategorïau sy’n cynnwys Record Hir Orau, Band Gorau a Fideo Cerddoriaeth Gorau.
Bydd enillwyr dwy wobr arall yn cael eu dewis gan dîm golygyddol Y Selar sef y Wobr Cyfraniad Arbennig a Gwobr 2022.
Dathlu llwyddiant 2022
“Unwaith eto eleni rydan ni’n gofyn i ddarllenwyr Y Selar ein helpu i ddewis enillwyr ein gwobrau cerddoriaeth blynyddol” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.
“Ers dros ddegawd bellach mae Gwobrau’r Selar wedi bod yn arwyddocaol yn y calendr cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, ac yn gyfle i’r ffans ddangos eu gwerthfawrogiad i’r artistiaid a’r bobl eraill sy’n allweddol i’r sin.
“Mae’r ffordd berffaith i ddathlu llwyddiannau’r flwyddyn sydd wedi bod, can edrych ymlaen at yr hyn a ddaw dros y flwyddyn nesaf.”
Manylion cyhoeddi enillwyr i ddilyn
Dros y blynyddoedd fe ddatblygodd digwyddiad Gwobrau’r Selar i fod yn un o uchafbwyntiau’r calendr gigs byw, wrth i’r enillwyr gael eu datgelu fel arfer dros benwythnos gwallgof ond gwych o gerddoriaeth yn Aberystwyth.
Bu’n rhaid newid hynny dros flynyddoedd Covid, a ni fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad byw eleni chwaith.
“Rydyn ni wrthi’n gwneud y trefniadau ar gyfer cyhoeddi’r enillwyr, a bydd gwybodaeth am hynny’n fuan iawn” meddai Owain Schiavone.
“Roedd y digwyddiad blynyddol yn achlysur arbennig iawn, ond roedden ni’n ystyried newidiadau cyn i’r pandemig gyrraedd, ac rydyn ni wedi cyd-weithio’n llwyddiannus gyda Radio Cymru dros y ddwy flynedd ddiwethaf i gyhoeddi’r enillwyr dros y tonfeddi.
“Yn sicr bydd digon o gyffro o gwmpas y gweithgarwch cyhoeddi, felly cadwch olwg am y manylion yn fuan iawn.”
Mae pleidlais Gwobrau’r Selar ar agor nawr a gall unrhyw un fwrw pleidlais dros 9 categori. Bydd y bleidlais yn cau ar 12 Chwefror.