Ail Albwm Mellt ar gael i’w archebu

Mae’r band o Aberystwyth, Mellt, wedi datgelu bod eu halbwm newydd bellach ar gael i’w rag-archebu.

Y newyddion cyffrous pellach ydy bydd yr albwm hefyd ar gael ar ffurf feinyl.

‘Dim Dwywaith’ ydy enw ail albwm Mellt a bydd allan ar label Clwb Music ar 27 Hydref. 

Mae modd rhag-archebu’r albwm nawr.