Ail Daith Pyst a Mentrau Iaith 

Mae’r cwmni dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymreig, Pyst, a Mentrau Iaith Cymru wedi cyhoeddi manylion eu hail cylchdaith o gigs ar y cyd. 

Ar ddechrau’r flwyddyn eleni fe gyhoeddodd i ddau eu bwriad i bartneru er mwyn lansio cylchdaith reolaidd i ddod â cherddoriaeth fyw Gymraeg i ardaloedd mwy gwledig ac ardaloedd nad oedd yn cynnal gigs byw bellach. 

Ym mis Ebrill digwyddodd y daith gyntaf gyda HMS Morris a gwesteion yn perfformio mewn deg ardal wahanol o Gymru.

Nawr mae manylion yr ail daith o’r fath wedi’u cyhoeddi  gan weld The Gentle Good yn perfformio mewn deg ardal arall yn ystod mis Hydref, gyda chefnogaeth wahanol ymhob gig. 

Yn ôl Prif Weithredwr PYST, Alun Llwyd mae’r ail daith yn adeiladu ar lwyddiant y gyntaf. 

“Mae’n wych gweld yr ail daith yn datblygu ar lwyddiant y cyntaf ac yn mentro i fwy o ardaloedd a chanolfannau newydd fel bod ymgysylltiad â cherddoriaeth Gymraeg yn parhau i dyfu” meddai Alun. 

Yn ôl Mentrau Iaith Cymru y bwriad ydy cynnig cyfle i bobl o ardaloedd gwahanol fwynhau cerddoriaeth Gymraeg. 

“Roedd yn wych i weld cerddoriaeth fyw iaith Gymraeg yn ymweld ag amrywiaeth o ardaloedd gwahanol ar draws Cymru ar y daith gyntaf” meddai Tomos Owen ar ran y Mentrau Iaith.

 

“Gyda’r ail daith yn ymweld â Mentrau a lleoliadau newydd, edrychwn ymlaen at greu mwy o gyfleoedd i bobl mwynhau’r celfyddydau iaith Gymraeg ar draws y wlad.”

Daw’r newyddion am y daith wrth i The Gentle Good, sef prosiect cerddorol Gareth Bonello, baratoi i ryddhau ei albwm newydd, ‘Galargan’. 

“Dwi wrth fy modd gyda’r cyfle arbennig yma i rannu fy ngherddoriaeth ar hyd a lled y wlad” meddai Gareth am y daith. 

“Mae cerddoriaeth byw yn rhan bwysig o’r clytwaith cymdeithasol sy’n cynnal ein cymunedau ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at berfformio i gynulleidfaoedd newydd mewn lleoliadau sy’n dra gwahanol i’r arfer.”

Mae modd archebu tocynnau ar gyfer gigs y daith nawr. 

Manylion taith PYST a Mentrau Iaith Cymru: 

4/10/23 – Cartref Dylan Thomas Birthplace – Abertawe (gyda Angharad Jenkins)
5/10/23 – Yr Hen Farchnad – Llandeilo (gyda Bwca)
6/10/23 – Y Cwtsh – Pontyberem (gyda Lowri Evans)
13/10/23 – Clwb y Bont – Pontypridd (gydag Y Dail)
14/10/23 – Memo – Y Bari (gyda Parisa Fouladi)
15/10/23 – Tyn y Twr Tavern – Baglan (gyda Melda Lois)
19/10/23 – Gwesty Pen y Bryn Hotel – Llanfairfechan (gyda Eve Goodman)
20/10/23 – Ystafell Gymunedol Ysgol Gymraeg y Trallwng – Y Trallwng (gyda Iwan Huws)
21/10/23 – Clwb Criced – Yr Wyddgrug (gyda Gwilym Bowen Rhys)
22/10/23 – Tafarn Y Fic – Llithfaen (gyda Gwyneth Glyn a Twm Morys)