Ail gyfyr Nadolig Dadleoli

Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Dadleoli, wedi rhyddhau’r ail mewn cyfres o dri fideo ohonynt yn perfformio cyfyrs ganeuon Nadolig Cymraeg enwog.

‘Clychau’r Ceirw’ gan Al Lewis ydy’r trac Nadoligaidd o’r archif ddiweddaraf i dderbyn y driniaeth gan Dadleoli, ac unwaith eto maent wedi rhoi eu stamp unigryw eu hunain ar y gân.

Daw’r fersiwn newydd o gân Al Lewis yn fuan ar ôl i Dadleli gyhoeddi eu fersiwn o glasur Yws Gwynedd, ‘Fy Nghariad Gwyn’.

Unwaith eto fe recordiwyd y trac a’r fideo ar ei gyfer yn stiwdio Coco & Cwtsh ger Caerfyrddin. Branwen Munn sy’n gyfrifol am waith cynhyrchu’r trac, ac mae’r ffilmio a golygu gan Taliesin Evans.