Ail-ryddhau albwm eiconig Ffa Coffi Pawb

Bydd albwm olaf y band chwedlonol o Fethesda, Ffa Coffi Pawb, yn cael ei ail-ryddhau i nodi 30 o flynyddoedd ers iddynt berfformio ar lwyfan am y tro olaf. 

Rhyddhawyd ‘Hei Vidal!’ yn wreiddiol ar label Ankst ym 1992 a dyma oedd trydydd albwm Ffa Coffi Pawb, oedd erbyn hynny wedi sefydlu eu hunain fel un o fandiau mwyaf y sin Gymraeg. 

Ffurfiwyd Ffa Coffi Pawb ym Methesda ym 1986 gan ddau o ffrindiau un ar bymtheg oed, sef Gruff Rhys a Rhodri Puw. Yn fuan iawn roedd dau aelod arall wedi ymuno sef Dafydd Ieuan a Dewi Emlyn. Ar ôl i’r band chwalu, aeth Dafydd Ieuan a Gruff Rhys ymlaen i ffurfio’r Super Furry Animals, a bu Rhodri Puw yn aelod o grwpiau eraill amlycaf cyfnod Cŵl Cymru, Gorky’s Zygotic Mynci, am gyfnod hefyd. 

Bydd y fersiwn newydd o’r albwm yn cael ei ryddhau ar label Ara Deg ar 28 Gorffennaf a bydd ar gael ar ffurf feinyl 12” nifer cyfyngedig sydd ar gael mewn lliw clir a lliw coch. Bydd hefyd ar gael ar ffurf CD a chasét ac mae modd rhag archebu nawr. 

Tri degawd ers perfformiad olaf

Recordiwyd ‘Hei Vidal!’ gan griw o lanciau 21 a 22 oed Yn Stiwdio Ofn, Ynys Môn, ac mae’n albwm sy’n distyllu obsesiynau’r band gyda power-pop y 70au cynnar (yn cwmpasu’r holl B’s o Bowie, Bolan i Big Star) yn ogystal â Neu! a My Bloody Valentine i mewn i sain sy’n achub y blaen ar y dychweliad amrwd i glam gan Oasis a’u tebyg ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach. 

Mae’n cyfuno beats motorik Almaenig dros dirluniau fuzz swnllyd, arbrofion stiwdio haniaethol, trefniannau synthetic a delweddau chwareus ac ynfyd yn yr iaith Gymraeg. 

Wedi rhoi hawliau eu caneuon i gyhoeddwr lleol a ddiflannodd oddi ar wyneb y Ddaear, mae cerddoriaeth Ffa Coffi Pawb wedi bod allan o brint ers degawdau, ac eithrio casgliad ‘Ffa Coffi Pawb Am Byth’ a ryddhawyd ar CD yn 2004. Ar ôl datrys pob penbleth, Mae Hei Vidal! ar gael ar wasanaethau ffrydio a feinyl am y tro cyntaf, ar ôl bod ar gasét a CD yn unig ers cael ei ryddhau’n wreiddiol ym 1992.

Mae’r ailgyhoeddi yn nodi 30 mlynedd ers sioe olaf y band yn Neuadd Goffa Llanfair-ym-Muallt ym mis Awst 1993, gyda neb llai na Gorky’s Zygotic Mynci ifanc yn agor y noson.

Tamaid i aros pryd

Er nad yw’r record allan nes diwedd Gorffennaf, mae’r trac ‘Ffarout’ ar gael nawr ar y llwyfannau digidol arferol, yn ogystal â’r ‘ochr B’, ‘Tocyn’, sef fersiwn o gân glam roc cyntefig o 1974 gan y band Brân o Fethesda, sef y gân olaf i Ffa Coffi Pawb ei recordio, ac a ryddhawyd ar albwm amlgyfranog ‘Ap Elvis’ Ankst ym 1993.

“Fe wnaethon ni’r record yn ein 20au cynnar ac roedd yn gyfuniad breuddwydiol o’n hobsesiynau Glam, power-pop a Motorik o’r 1970au cynnar – wedi’u cyfuno’n ddiamau gan ein hymroddiad i synnau cyfoes o’r label Creation, roc amrwd Americanaidd a’n arwyr yn y Gymraeg fel Datblygu a’r Cyrff” meddai Gruff Rhys am ‘Hei Vidal!’  

“Mae teitl ynfyd yr albwm yn ddyfyniad o’r gân ‘Colli’r Goriad’ a’r Vidal dan sylw yn gyfuniad rhithweledigaethol o Gore Vidal a Vidal Sassoon; roedd y ddau ohonynt yn bersonoliaethau hollbresennol ar deledu’r 90au cynnar, un fel gwybodusyn a’r llall ar hysbysebion siampŵ teledu a oedd yn darlledu’n ddi-ddiwedd.” 

I gyd-fynd ag ail-ryddhau’r albwm, mae’r grŵp wedi cyd-weithio â’r cwmni coffi Hard Lines Coffee o Gaerdydd sydd wedi rhostio cyfuniad unigryw o ffa coffi (Pawb). 

Mae modd rhag-archebu’r albwm nawr o safle Bandcamp Gruff Rhys ac o siopau recordiau annibynnol dethol. 

Dyma ‘Ffarout’:

Llun: Ffa Coffi Pawb 1992 (Ffotograffydd – Rolant Dafis)