Ail Zine Klust

Mae gwefan gerddoriaeth ddwy-ieithog Klust wedi datgelu eu bod yn cyhoeddi eu hail ffanzîn, sef Zine Klust 02.

Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf o’r zine atyniadol union flwyddyn yn ôl ym mis Rhagfyr 2022.

Owain Elidir Williams sy’n gyfrifol am y wefan sy’n rhoi sylw i gerddoriaeth newydd o Gymru trwy gyfrwng erthyglau Cymraeg a Saesneg.

Sefydlwyd y wefan ym mis Rhagfyr 2021 ac mae wedi bod yn cyhoeddi erthyglau’n rheolaidd ers hynny.

Mae’r zine yn cynnwys ugain darn gwreiddiol gan ugain o awduron gwahanol gan “ymweld â rhai o’n hoff weithiau cerddorol o Gymru eleni, a’n cyfleu’r hapusrwydd a’r cynhesrwydd sy’n dod gyda darganfod cerddoriaeth newydd” yn ôl Klust.

Mae modd archebu copïau am £8 o wefan Klust.