Al Lewis yn cyhoeddi manylion ei gigs Nadolig

Mae’r canwr-gyfansoddwr hoffus, Al Lewis (neu Bing Crosby Cymru fel fyddwn ni’n hoffi ei alw fo), wedi cyhoeddi manylion ei sioe Nadolig blynyddol poblogaidd yng Nghaerdydd. 

Mae Al yn cynnal y sioe Nadolig yn Eglwys Sant Ioan, Treganna, ers sawl blwyddyn bellach ac mae’r digwyddiad wedi datblygu i fod yn un o uchafbwyntiau cerddoriaeth fyw tymor y Nadolig yng Nghymru.

Yn wir, eleni mae Al yn nodi deng mlynedd ers dechrau cynnal ei sioe ‘Al Lewis a’i Gyfeillion’. 

Bydd dau gyfle i fynd i’r sioe eleni, gydag un noson ar nos Wener 15 Rhagfyr a’r ail ar nos Sadwrn 16 Rhagfyr. 

Does dim manylion eto ynglŷn â pha gyfeillion fydd yn ymuno ag Al ar gyfer y nosweithiau eto, ond o ystyried poblogrwydd y sioeau fel arfer, mae disgwyl i’r tocynnau werthu’n gyflym er gwaetha’ hynny. Mae 175 o docynnau seddi ‘heb eu cadw’ ar gyfer y sioeau, gyda gweddill y gynulleidfa’n gorfod bodloni ar sefyll.

“Er mwyn ein helpu i ddathlu’r degawd o sioeau ac i wneud hi’n benwythnos i’w gofio, rydym wedi gwahodd gwesteion yn ôl o sioeau blaenorol gyda rhai wahanol yn perfformio bob nos” meddai Al Lewis wrth ddatgelu’r manylion cyntaf ynglŷn â’r sioe eleni. 

“Byddwn hefyd yn gwneud rhodd o £1 o werthiant bob tocyn i’r Gymdeithas MS.” 

Mae’r elusen hwnnw’n agos iawn at galon Al oherwydd ei Dad a bu farw o’r afiechyd yn 52 oed.”

Mae’r tocynnau ar werth am £22.50 ymlaen llaw neu £25 wrth y drws, os fydd rhai ar ôl erbyn y nosweithiau. 

Mae modd archebu tocynnau ar-lein, neu eu prynu dros y cownter yn Siop Lyfrau Caban yn Heol y Brenin Caerdydd, a siop Ffloc yn Nhreganna. 

 

Dolen i brynu tocynnau sioe nos Wener 15 Rhagfyr

Dolen i brynu tocynnau sioe nos Sadwrn 16 Rhagfyr