Mae’r canwr-gyfansoddwr Al Lewis wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf 16 Mehefin dan yr enw ‘Feels Like Heeling’.
Dyma’r sengl gyntaf oddi ar albwm newydd Al, fydd allan fis Ionawr 2024, ac mae’n dilyn ei sengl y llynedd ‘The Farmhouse’, gafodd ei henwebu ar gyfer ‘Cân Werin Saesneg y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Gwerin Cymru 2023.
Mae’r gân yn dilyn themâu tebyg i’w bodlediad newydd, sy’n rhannu enw’r sengl, lle mae Al ynghyd ag artistiaid eraill, yn trafod sut all fod yn greadigol helpu wrth ddelio â galar.
“Daeth y gân at ei gilydd ar ôl imi (o’r diwedd) gytuno i therapi a siarad gyda rhywun am golli fy Nhad” eglura Al.
“Roedd gen i ofn crio o flaen dieithryn, a’n dychmygu ei fod am fod yn brofiad anghyfforddus, ond ar ôl bod, dwi nawr yn gallu siarad am Dad a theimlo fy mod i’n gallu rheoli fy emosiynau. Dwi’n gwybod nawr y byddai’r galar byth yn diflannu go iawn.
“Dwi wedi sylweddoli fod galar yn rhywbeth sy’n bodoli o hyd, yn rhywbeth sy’n dod i’r amlwg ar wahanol adegau mewn bywyd – genedigaeth eich plentyn neu ar ddiwrnod eich priodas. Ond yr hyn dwi wedi’i ddysgu yw bod profi’r teimladau hynny’n iawn. Mae’r gân yn ymwneud â derbyn ansicrwydd galar a deall ei bod wastad am fod yno.”
Mae’r sengl allan ar label annibynnol Al.