Mae dau o gerddorion fwyaf blaenllaw Cymru, o feysydd gwerin a jazz, wedi dod ynghyd am y tro cyntaf, gyda’u halbwm o gerddoriaeth Nadoligaidd.
‘Calennig’ ydy enw’r record newydd, ac mae wrth gwrs yn cyfeirio at y traddodiad o ddathlu a chroesawu’r Flwyddyn Newydd.
Mae’n symbol o obaith a dechreuadau newydd. Gyda’r rhinweddau hyn mewn golwg, mae Angharad Jenkins (llais a ffidil), a Huw Warren (piano), yn bwrw golwg o’r newydd ar rai o gerddoriaeth draddodiadol Cymru adeg y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, gan ganolbwyntio’n benodol ar garolau hardd ac unigryw y Plygain.
“Mae gennym amrywiaeth gyfoethog o draddodiadau cerddorol yng Nghymru, ond un o fy ffefrynnau yw traddodiad y Plygain” eglura Angharad.
“Fodd bynnag, mae’r gerddoriaeth ar yr albwm hwn yn dra gwahanol i’r hyn y byddech yn ei glywed fel arfer mewn gwasanaeth Plygain.”
Mae gan Angharad Jenkins a Huw Warren yrfaoedd nodedig ym meysydd gwerin a jazz. Maent yn adnabyddus am eu dulliau arloesol o greu cerddoriaeth, felly mae’r carolau Plygain hyn yn cael eu trin gyda meddwl agored, creadigol.
Tra bod llais naturiol a diffuant Angharad yn aros yn driw i alawon a geiriau gwreiddiol y carolau hyn, mae cyfeiliant harmonig unigryw Huw yn mynd â’r caneuon i fyd sonig newydd, gan wneud hon yn albwm sy’n eistedd yn fwy cyfforddus o fewn ffrâm gerddoriaeth fyd gyfoes na gwerin draddodiadol.
“Doeddwn i ddim yn or-hoff o’r syniad o recordio albwm o gerddoriaeth Nadolig,” meddai Huw.
“Ond pan gyflwynodd Angharad yr alawon Plygain yma i mi, syrthiais mewn cariad gyda nhw yn syth, a theimlais y gallwn roi fy stamp fy hun arnynt.”
Daeth y cydweithio hwn i fodolaeth ym mis Rhagfyr 2020 pan wahoddwyd y ddeuawd gan Elen Elis o’r Eisteddfod Genedlaethol i ddarparu rhaglen fer o gerddoriaeth ar gyfer yr Adfent Amgen – ail ddigwyddiad ar-lein yr ŵyl y flwyddyn honno. Gydag ansicrwydd parhaus y pandemig, roedd Angharad a Huw yn falch iawn o’r cyfle i gydweithio a chynnig rhywbeth i gynulleidfa’r Eisteddfod.
Gofynnwyd i’r prifardd, Ceri Wyn Jones, i ymateb i’r pandemig drwy ysgrifennu geiriau newydd i un o hoff garolau Plygain Cymru. Mae ‘Daeth Nadolig 2020′ – sef pedwerydd trac ar yr albwm – yn atgof teimladwy a gobeithiol y bydd pethau’n gwella ac y byddwn yn gallu mwynhau cerddoriaeth, a chwmni eraill eto’n fuan.
Fe fwynhaodd y ddeuawd y cydweithio cymaint, nes y bu iddynt ddychwelyd i Neuadd Gyngerdd Prifysgol Caerdydd yn ystod Haf 2021 i recordio detholiad pellach o gerddoriaeth ar gyfer yr albwm. Recordiwyd yr albwm cyfan yn fyw. Y peirianwyr recordio oedd Eddie Gripper a Patrick Barrett-Donlon, dau fyfyriwr jazz Huw ym Mhrifysgol Caerdydd. Cafodd yr albwm ei gymysgu a’i feistroli gan Gerry O’Riordan yn Soundhouse Studios, Llundain.
Bydd Angharad a Huw yn lansio eu halbwm gyda chyngerdd arbennig ar y 23 Tachwedd yn Neuadd Dora Stoutzker yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Yn ymuno â nhw ar y noson bydd criw o fyfyrwyr jazz, sydd ar hyn o bryd yn astudio yn CBCDC gyda Huw Warren.
Bydd ‘Calennig’ yn cael ei ryddhau ar y 1 Rhagfyr ar label Recordiau Sienco, a gallwch rhag-archebu’r albwm nawr ar Bandcamp.