A hwythau wedi rhyddhau eu halbwm diweddaraf ar fformat CD yn gynharach yn y flwyddyn, mae albwm diweddaraf y band Bwca bellach wedi’i ryddhau ar y llwyfannau digidol hefyd.
Hafod ydy enw ail albwm llawn Bwca ac mae ar gael nawr ar label Recordiau Hambon.
Rhyddhawyd yr albwm yn wreiddiol ar ffurf CD nôl ym mis Mehefin eleni, ond ers 11 Medi mae hefyd bellach ar gael yn ddigidol.
Ers rhyddhau’r record yn wreiddiol, mae’r band wedi bod yn gigio’n brysur dros yr haf.
Gan ddechrau yn Arena Abertawe o bob man, fe aeth Bwca i berfformio yn eu milltir sgwâr yng Ngheredigion gyda gigs yn Aberystwyth, Llanbed, Aberaeron ac Aberteifi cyn diddanu torfeydd y Sioe Fawr. Uchafbwynt y daith yn ôl y band oedd y gyfres o gigs o gwmpas bro’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llŷn ddechrau mis Awst gan gynnwys noson gofiadwy yn cefnogi Dafydd Iwan a’r Band yn Nant Gwrtheyrn a Gai Toms yng Nghwrw Llŷn.
Dianc mewn i natur a phleserau syml bywyd yw thema’r albwm hwn. Wedi ei ysgrifennu ar y cyd gyda’r bardd o Dalybont, Phil Davies mae’r caneuon yn ein tywys yn esmwyth o unigeddau anghysbell y canolbarth i arfordir braf Llydaw a thu hwnt.
Yn gerddorol, dyma albwm ar gyfer Haf Bach Mihangel gyda sain cyrn y carnifal, rhythmau egsotig ac alawon bachog trwyddi draw. Fel dangosodd yr albwm cyntaf, mae gan Bwca y gallu i fflyrtio gydag ystod eang o genres ac mae ‘Hafod’ unwaith eto yn rhoi i ni fflachiadau o roc y 70au, soul, tropicalia, gospel, Americana a llawer mwy mewn un coctel enigmataidd o llyfn ac apelgar.
Fe fydd Bwca unwaith eto yn gigio yn ystod yr Hydref ac yn ôl y band mae mwy o gynnyrch ar y ffordd.