Albwm cyntaf AhGeeBe

Mae’r prosiect cerddorol dwy-ieithog, AhGeeBe, wedi rhyddhau ei albwm cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 3 Tachwedd. AhGeeBe yw prosiect y cyfansoddwr a’r aml-offerynnwr, Rhodri Gwyn Brooks.

Dros y ddegawd ddiwethaf, mae Rhodri wedi perfformio a recordio gyda sawl artist gwahanol (Melin Melyn, Gia Margaret, Novo Amor, Georgia Ruth ac Ivan Moult i enwi llond llaw), ac wedi dwyn ysbrydoliaeth gan artistiaid fel George Harrison, Wilco a Neil Young i gynhyrchu ei frand unigryw o ganu gwlad Americana.

Mae AhGeeBe eisoes wedi rhyddhau EP hunan-deitlog cyn hyn, ond bellach mae ei albwm cyntaf, ‘Chin Up, Chief’, ar gael ar y llwyfannau digidol arferol trwy label Bubblewrap Collective.

Dyma drac Cymraeg o’r albwm, ‘Tynnu Gwaed’: