Albwm cyntaf The Night School ar y ffordd

Mae’r band roc, The Night School, wedi cyhoeddi y byddan nhw’n rhyddhau eu halbwm cyntaf ddechrau mis Mai. 

‘Dianc’ fydd enw’r albwm gan y band a bydd yn cael ei ryddhau ar 5 Mai.  

Band dwy-ieithog o Abertawe ydy The Night School sydd wedi creu argraff gyda’u senglau hyd yma. 

Mae’r band wedi ennill dilyniant cryf yn Abertawe a ledled Cymru, diolch i’w perfformiadau bywiog a’u hymroddiad i hybu’r iaith Gymraeg a’i diwylliant trwy eu cerddoriaeth roc.

Mae 2023 eisoes wedi bod yn flwyddyn fawr iddynt, ar ôl derbyn arian o gronfa Lansio Gorwelion ac ymddangos yn fyw ar gystadleuaeth Cân i Gymru S4C fel un o’r 8 oedd yn y rownd derfynol gyda’u sengl ‘Melys’. 

Bydd yr albwm yn cynnwys y senglau ‘Melys’, ‘Nothing but Trouble’, ac ‘Yr Un Hen Beth’, ac  yn arddangos straeon y band, alawon bachog ac unawdau gitâr epig.

Mae thema dihangfa yn rhedeg drwy’r albwm, gyda phob cân yn archwilio gwahanol ffyrdd o ddianc o fywyd pob dydd. O ddringo mynyddoedd i archwilio bydoedd rhithwir, o awydd am annibyniaeth Gymreig i geisio am ryddhad o berthnasoedd personol anodd, mae’r albwm yn cwmpasu ystod eang o brofiadau ac emosiynau.

Y prif leisydd Daniel Davies, y gitarydd Dafydd Mills, y drymiwr Tomos Mills, a’r basydd Luke Clement yw The Night School ac mae  eu sŵn roc yn debygol o apelio at ddilynwyr y genre.

“Rydym wrth ein bodd yn rhyddhau ein halbwm cyntaf ‘Dianc’ ac yn rhannu ein cerddoriaeth gyda chynulleidfa ehangach,” meddai’r basydd, Luke Clement. 

“Rydym yn gobeithio bod ein cerddoriaeth yn ysbrydoli eraill i ddod o hyd i’w dihangfeydd eu hunain ac i ddarganfod ffyrdd newydd o brofi’r byd o’u cwmpas, gyda’r caneuon hyn yn darparu’r trac sain gobeithio!”

Bydd gig lansio arbennig ar gyfer ‘Dianc’ yn cael ei gynnal ar y dyddiad rhyddhau yn lleoliad Elysium yn Abertawe.

Dyma ‘Melys’: