Albwm Ddwbl Busker Jones allan yn ddigidol

Mae dau o albyms yr artist chwedlonol, Busker Jones, wedi’i rhyddhau’n ddigidol am y tro cyntaf.  

‘Yn y wlad fach bur’ a ‘Heading for 70′ ydy’r ddwy record hir sydd allan ar y llwyfannau digidol am y tro cyntaf ar label NSL. 

Roedd Busker Jones, neu Geraint Jones i ddefnyddio ei enw iawn, yn adnabyddus yn y 60au fel band un-dyn oedd yn chwarae ar hyd a lled llwyfannau Cymru, yn ogystal â lleoliadau rhwng Lerpwl a Llundain. Yn wreiddiol o bentref Pentrecwrt yn Nyffryn Teifi, fe ryddhaodd ei gynnyrch cyntaf ar label Cambrian ar ddiwedd y 1960au.

Perfformiodd gyda’r Dhogie Band am flynyddoedd lawer a chyd-ysgrifennodd nifer o ganeuon gyda John Humfrey – gan gynnwys ‘Seren y Sgrîn’ a gyrhaeddodd y rownd derfynol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru yn 1992, tra bod y fersiwn Saesneg, ‘Marilyn’, ar gael i’w chlywed ar yr albwm ‘Heading For 70’.

Mae dylanwad canu gwlad yn amlwg yng ngherddoriaeth Jones ac mae’r ddau albwm yn cynnwys harmonïau gwych gan Lowri Evans a gwaith gitâr gan Lee Mason a Reuben Wilsdon-Amos. 

Yn parhau i ysgrifennu deunydd newydd, mae’n debyg fod Busker yn chwarae gyda’r syniad o berfformio’n fyw unwaith eto ar hyn o bryd. 

Mae’r ddau albwm ‘Yn y wlad fach bur’ a ‘Heading for 70’ ar gael i’w ffrydio drwy label NSL nawr.