Albwm Dienw ar y ffordd

Mae label recordiau I KA CHING wedi datgelu bydd y band Dienw yn rhyddhau eu halbwm cyntaf ym mis Tachwedd eleni.

Dienw ydy’r band dau aelod o’r gogledd sef Twm Herd (llais a gitâr) ac Osian Land (dryms).

Maen nhw wedi rhyddhau cyfres o senglau gydag I KA CHING ers ffurfio fel rhan o brosiect Marathon Roc yn 2017, gan greu argraff mewn gigs byw hefyd.

Bydd eu halbwm cyntaf allan ar 17 Tachwedd, gyda gig lansio arbennig yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar yr un dyddiad.