Albwm Hap a Damwain ar y ffordd

Mae’r grŵp amgen ac arbrofol o’r gogledd, Hap a Damwain, wedi datgelu y byddan nhw’n rhyddhau eu halbwm newydd ar ddiwedd mis Ionawr. 

Ni Neu Nhw fydd enw’r record hir newydd gan y ddeuawd ac  fe fydd yn cael ei rhyddhau’n ddigidol, ar ffurf CD ac ar ffurf MiniDisc ar 27 Ionawr. 

Mae’r albwm bellach ar gael i’w rag-archeu ar safle Bandcamp Hap a Damwain ers 6 Ionawr. 

Datblygiad sŵn

Fe recordiwyd yr albwm dros y flwyddyn ddiwethaf yng Nghanolfan gymunedol Hen Golwyn, a hefyd gyda Gwyn ‘Maffia’ Jones, yn Stiwdio Bos ger Llanfrothen. 

Yn ôl y grŵp, gall gwrandawyr ddisgwyl datblygiad sylweddol o sŵn cynnyrch blaenorol Hap a Damwain.

“Dipyn o ddatblygiadau ers yr albwm cyntaf [Hanner Cant] sw ni’n ddeud” meddai Aled Roberts o’r band wrth Y Selar.

“Cafodd honno ei recordio i gyd dros y we yn ystod y cyfnod clo felly mae wedi bod yn braf cael sgwennu pethe a trio syniadau ‘yn y cnawd’ fel petai.

“Da ni’n mynd i’r ganolfan gymunedol yn Hen Golwyn bob bore Llun o 10 tan 2 i sgwennu a trio syniadau a ymarfer. Armchair Yoga, Hap a Damwain, Weight Watchers.

“Di bod yn gigio tipyn yn 2022 hefyd felly ma dipyn o’r ‘hen’ bethe wedi datblygu trwy chwarae hefo nhw wrth ymarfer a ballu.”

Maen nhw hefyd wedi manteiso ar sgiliau offerynol cynhyrchydd y record…

“[Rydan ni] Hefyd wedi cael sawl sesiwn yn Llanfrothen yn stiwdio Gwyn ‘Maffia’ Jones.

“Mae o’n chwara dryms ar ambell trac, ma na teimlad mwy byw i’r stwff newydd oherwydd hyn a jyst o cael bod hefo’n gilydd.”

Pwy ydy Hap a Damwain?

Hap a Damwain ydy dau o gyn aelodau’r grŵp o’r 80au/90au cynnar, Boff Frank Bough, sef Simon Beech (cerddoriaeth, cynhyrchu, offerynnau a thechnoleg) ac Aled Roberts (geiriau, llais a chelf).

Daeth y ddau ynghyd eto i ffurfio Hap a Damwain yn fuan ar ôl atgyfodi Boff Frank Bough am berfformiad arbennig yn Eisteddfod Llanrwst yn 2019. 

Ers hynny maent wedi bod yn weithgar o ran rhyddhau cynnyrch newydd gan gynnwys nifer o senglau, y ddau EP ‘Ynysig #1’ ac ‘Ynysig #2’ yn 2020, ac yr albwm ‘Hanner Cant’ a ryddhawyd ym mis Mai 2021. 

Ym mis Mawrth llynedd dyfarnodd y grŵp Llwybr Llaethog eu ‘Gwobr Llwybr Llaethog’ blynyddol i Hap a Damwain – gwobr sy’n cael ei ddyfarnu iddynt bob blwyddyn i rywun sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig  i gerddoriaeth ydy hwn. 

Casáu ffasgwyr

“Mae’r albwm wedi troi allan yn eitha gwleidyddol mewn ffordd, ond doedd hynny ddim yn fwriadol” ychwanega Aled.

“Mae’n debyg bod pethe sy ar dy feddwl yn llifo fewn i’r geiriau a’r nodau ..ma Hap a Damwain yn sosialwyr ac yn casáu ffasgwyr, yn cefnogi’r undebau ac annibyniaeth.”
Mae modd rhag archebu Ni Neu Nhw ar safle Bandcamp Hap a Damwain nawr.
Dyma un o’r traciau, ‘Y Ffasgwyr’: