Bydd y canwr-gyfansoddwraig boblogaidd, Meinir Gwilym, yn rhyddhau ei phumed albwm unigol ddydd Gwener yma, 1 Rhagfyr.
Caneuon Tyn yr Hendy ydy enw’r record hir newydd fydd ar gael yn ddigidol ac ar ffurf CD trwy label Recordiau Sain.
Mae Meinir yn un o gerddorion mwyaf adnabyddus Cymru. Gyda’i gyrfa canu a recordio yn ymestyn yn ôl dros ugain mlynedd mae ei chaneuon gwreiddiol gonest ac apelgar wedi hen ennill eu plwyf a’i pherfformiadau byw niferus yn adnewyddu’r enaid ac yn cyffwrdd y galon.
Mae Caneuon Tyn yr Hendy yn cynnwys wyth o ganeuon newydd sbon a thrac bonws, sef ei sengl ddiweddaraf, ‘Goriad’ a ryddhawyd ym mis Rhagfyr llynedd.
Amrywiaeth i’r albwm
Yn gasgliad amrywiol o ganeuon, mae dawn Meinir fel bardd a cherddor unwaith eto yn serennu a’r cyfan wedi tyfu’n naturiol dros y flwyddyn eleni a’i recordio mewn cyfnod byr ym mis Tachwedd.
“Dydw i erioed wedi recordio albwm mewn cyn lleied o amser, tair wythnos ella o’r dechrau i’r diwedd” eglura Meinir.
“Mae o’n gasgliad sy’n mynd i bob man o ran arddullia cerddorol. Dwi heb guradu’r caneuon mewn unrhyw ffordd, nac ymdrechu i’w caethiwo nhw mewn bocs o ‘genre’.
“Ma nhw wedi cael ymddangos a thyfu sut bynnag oedd yn siwtio. Ma’ nhw’n mynd o faledi i bop nostalgic 90au, i sgrech o gân fatha ‘Chwarter i Hanner’. Gawn ni weld sut ymateb geith yr albwm. Ond dwi’n diolch am y fraint o gael ei ysgrifennu.
Wedi ei recordio yn rhannol gartref ac hefyd mewn amrywiol leoliadau, yn cynnwys Stiwdio Sain, Stiwdio Un a Stiwdio Ofn, gyda chymorth Sam Durrant, Osian Huw Williams ac Aled Wyn Hughes, cynhyrchwyd yr albwm gan Meinir ei hun a cheir chyfraniadau cerddorol gan Ceiri Humphreys ac Euron Jos (gitârs), Twm Elis a Cai Llywelyn Gruffydd (drymiau), Bob Galvin, Osian ac Aled (bas) ac Edwin Humphreys (cyrn a sax).
Yn ogystal mae llais Alys Williams i’w glywed ar y trac tyner ac emosiynol ‘Yr Enfys a’r Frân’ a llais a thelyn Gwenan Gibbard ar y trac gwerinol, bywiog, ‘Rew di Ranno’.
“Mae gwesteion arbennig yr albwm yn fy ngwneud i’n emosiynol rwsut – yn rhoi eu hamser a’u talent i ganu ar y caneuon” meddai Meinir.
“Mae Gwenan ac Alys yn leisiau arbennig ac unigryw a dwi’n teimlo’n lwcus iawn i gyd-weithio efo nhw.”
Taith Tyn yr Hendy
Cyd-gyfansoddwyd y gân ‘Tân’ gan Meinir a Gwyn Roberts (Ficar), gyda llais Gwyn i’w glywed hefyd ar y trac ac mae ‘Hon yw ’Mharadwys i’ yn fersiwn newydd o gân a gyfansoddwyd gan daid Meinir, Tecwyn Gruffydd, a’i mam Sioned – cân a recordiwyd yn wreiddiol gan Sioned yn 1983 a chân sy’n rhoi darlun byw iawn o ardal nodedig eu mebyd ym Môn. Mae Sioned yn ymuno efo Meinir ar y gân yma sy’n clymu tair cenhedlaeth ynghyd yn gelfydd.
O ddidwylledd amrwd y gân ‘Dwi’m yn Cofio’ i her ac ysbryd dyrchafol cân agoriadol yr albwm, ‘Waliau’, mae Caneuon Tyn yr Hendy yn mynd â’r gwrandäwr ar daith ar hyd llwybrau antur, hiraeth, serch, ansicrwydd a gobaith.
“Gobeithio y bydd hi’n taro nodyn cyfarwydd ond newydd ar yr un pryd” meddai Meinir.
“Mae ’na dîm gwych wedi bod yn rhan o gael yr albwm ’ma’n barod – diolch iddyn nhw ac allan â hi.”
Mae gan Meinir nifer o gigs rhwng hyn a’r flwyddyn newydd fel cyfle i hyrwyddo’r albwm newydd .
Rhestr gigs Meinir Gwilym:
1 Rhagfyr – Y Bontfaen (Pedair) – Duke of Wellington
2 Rhagfyr – Llanast Llanrwst 15.00 – Gwesty’r Eryrod
3 Rhagfyr – Lansiad (An)Swyddogol #CaneuonTyH
(tocyn yn unig – cystadleuaeth i ddilyn)
4 Rhagfyr – Sesiwn byw Rhaglen Rhys Mwyn @bbcradiocymru
5 Rhagfyr – Nant Gwrtheyrn (noson y dysgwyr)
9 Rhagfyr – Abersoch (Pedair) – Clwb Golff Abersoch
17 Rhagfyr – Crasu Coed, Aberdaron
29 Rhagfyr – Tafarn y Fic, Llithfaen
Dyma ‘Goriad’: