Albwm newydd Mr Phormula

Mae Mr Phormula wedi rhyddhau ei albwm diweddaraf sy’n ei weld yn parhau i arloesi mewn rap ddwyieithog. 

‘A.W.D.L (Artist With Dual Language)’ ydy enw’r record hir newydd gan brosiect unigol y rapiwr a bîtbocsiwr Cymraeg, Ed Holden. 

Mae’r albwm yn cael ei ryddhau ar label annibynnol Ed, sef Mr Phormula Records.

Wedi iddo gynrychioli rap ddwyieithog ers y 2000au cynnar, prin fod angen cyflwyniad ar Mr Phormula. 

Unwaith eto mae’r artist amryddawn yn ein hatgoffa pam mai ef sy’n arwain y genre rap dwy-ieithog, Cymraeg a Saesneg, hyd heddiw gyda’i albwm diweddaraf ‘A.W.D.L (Artist With Dual Language)’. 

Gan blethu penillion dwyieithog gyda churiadau trwm, mae’n hawdd gweld pam fod ganddo gefnogaeth yng Nghymru, Ewrop ac America. 

Mae nifer o artistiaid chwedlonol yn ymuno â Mr Phormula ar ‘A.W.D.L’, gan gynnwys 3hree8ight o Harlech, Guilty Simpson o Detroit, Akil The MC o Jurassic 5, heb sôn am waedd gan Chuck D o Public Enemy. 

Mae caneuon newydd Mr Phormula yn uno ac yn cysylltu artistiaid o wahanol rannau’r byd, gan barhau i dyfu’r sin hip-hop Gymraeg yng Nghymru a hyrwyddo’r genre dwyieithog dramor. 

Bydd cyfleoedd i ddal Mr Phormula yn perfformio mewn sawl digwyddiad eleni gan gynnwys gŵyl Big Love Festival, Sesiwn Fawr Dolgellau a’r Eisteddfod Genedlaethol.

Bachwch gopi o rifyn haf cylchgrawn Y Selar, fydd ar gael ddechrau mis Awst, i glywed mwy gan Ed am ei albwm diweddaraf.