Mae The Gentle Good wedi rhyddhau ei albwm newydd.
Galargan ydy enw’r casgliad diweddaraf gan brosiect y cerddor profiadol, Gareth Bonello, ac mae allan ar label Bubblewrap.
Daw’r albwm llawn ar ôl i Gareth rhyddhau tair sengl fel tameidiau i aros pryd sef ‘Pan Own i ar Foreddydd’ a ryddhawyd fis Ebrill eleni, ‘Mae’r Ddaear yn Glasu’ a ryddhawyd fis Mehefin, ac yn olaf ‘Nid Wyf yn Llon’ a laniodd ar 11 Awst.
Mae Galargan yn gasgliad o hen ganeuon, wedi’u gosod a’u dehongli gan y cerddor pan oedd y byd dan glo, pan oedd pethau fel colled, anobaith ac ofn yn teimlo’n fwy real nag erioed. Pan roedd pobol annwyl yn diflannu. Pan roedd dicter yn cymysgu efo’r dŵr, a phawb jyst yn teimlo fel se’ nhw’n sgrechian fewn i’r düwch. Mewn cyfnodau fel hyn, pan s’dim geiriau, mae’r hen ganeuon yn awgrymu eu hunain: wastad yn berthnasol, wastad hefo rhywbeth newydd i ddatgelu.
Daw llawer o ganeuon Galargan o gasgliadau ac ysgrifau amhrisiadwy Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol. Mae ‘Nid wyf yn llon’ yn un enghraifft – cân a ganwyd gan garcharor yng ngharchar Dolgellau. Clywn ei lais mewn ystafell lle nad yw deffroad y gwanwyn ond atgof pell trwy furiau llaith hen gell. Mae’r anobaith yn ymestyn ar draws y canrifoedd; am eiliad mae yna gysylltiad â’r dyn dienw hwn, bron fel pe baem yn rhannu’r gell gydag ef.
Ymlaen â ni, eto, trwy wyrddni rhyw fore ddisglair arall ar ‘Pan own y gwanwyn’, gyda’r alaw annaearol sy’n gwrthod pob ymdrech i’w dala hi. ‘I Beth yw’r haf i mi?’ sy’n swnio bron fel cân fado yn fan hyn, cyn i‘r soddgrwth wylo yng nghyfnos ‘Dafydd y Garreg Wen’.
Mae’r albwm wedi’i grefftio mewn cegin yng Nghaerdydd, ac mewn bwthyn allan yn eangdiroedd gwyllt Cwm Elan, lle’r oedd y cerddor â neb ond ei hunan yn gwmni iddo, mae trefniant y caneuon yn syml. Weithiau, mae cyfle i glywed y sielo – fel yr haul yn dod allan o’r tu ôl i’r cwmwl, yn llenwi’r byd gyda disgleirdeb eto – ond, y gitâr a’r llais sy’n gyson, ac yn drawiadol.
Recordiwyd yr albwm gyda’r cynhyrchydd Frank Naughton yn Stiwdio Tŷ Drwg yn Grangetown gyda Sion Orgon o Digitalflesh Mastering yn gyfrifol am y mastro. Mae gitâr a llais i gyd ar yr albwm gan Gareth Bonello.
Daeth cyhoeddiad yn ddiweddar hefyd am daith hydref The Gentle Good i hyrwyddo’r albwm sy’n cael ei drefnu gan PYST a Mentrau Iaith Cymru.
Dyma fideo ‘Pan Own i ar Foreddydd‘ sydd wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau Lŵp: