Albwm Thrips yn cynnal rhediad Euros

Gan barhau â thraddodiad sy’n ymestyn yn ôl dros nifer o flynyddoedd bellach, mae Euros Childs wedi rhyddhau ei albwm newydd ddydd Gwener diwethaf, 22 Rhagfyr. 

‘Thrips’ ydy enw enw record hir diweddaraf y cerddor sy’n adnabyddus am fod yn hynod gynhyrchiol, ac a oedd yn arfer bod yn aelod o’r grŵp Gorkys Zygotic Mynci. 

Mae’r albwm ar gael i’w ffrydio a lawr lwytho oddi-ar wefan Euros, a’r cerddor ddim ond yn gofyn am gyfraniad o ddewis y gwrandäwr. 

Wyth o ganeuon sydd ar ei albwm diweddaraf ac fe’i recordiwyd yn stiwdio Gus’ Dungeon II yn ystod mis Rhagfyr eleni. Mae Euros yn chwarae syntheseiddiwr a phiano organ ar y caneuon, ynghyd â chanu. 

Mae rhyddhau’r albwm yn cynnal rhediad anhygoel Euros Childs o ryddhau o leiaf un albwm unigol bob blwyddyn ers rhyddhau ei record hir gyntaf, Chops, yn 2006.