Alffa yn ôl gydag ‘Unkind Mind’

Mae Alffa wedi rhyddhau eu sengl Saesneg newydd ers dydd Gwener diwethaf, 31 Mawrth.

‘Unkind Mind’ ydy enw sengl ddiweddaraf y ddeuawd roc o Lanrug ac mae’r gân yn cyfleu’r frwydr fewnol rhwng y corff a’r meddwl.

Ar y trac mae  Alffa yn mynd i’r afael ag iechyd meddwl gan bwysleisio na ddylem fod mor galed ar ein hunain ac yn cyfleu hynny drwy adeiladu’r gân o’r cynnil i’r ymladdgar.

Mae’r sengl yn blaguro o gynnig cyngor swil, i floeddio’r cyfarwyddyd “kill it with kindness“.

Yn datblygu ar y sain y cynhyrchwyd ar eu sengl ddiwethaf ‘Closer To Me’, gafodd ei rhyddhau fis Tachwedd y llynedd, mae ‘Unkind Mind’ yn mynd i’r afael ag iechyd meddwl – heb ddal yn ôl.