Alis Glyn yn rhyddhau ‘Seithfed Nef’

Mae’r artist ifanc o Arfon, Alis Glyn, wedi rhyddhau ei sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 10 Mawrth.

Enw’r trac newydd ydy ‘Seithfed Nef’ ac mae allan ar label Recordiau Aran. 

Dim ond ail sengl Alis ydy hon – mae’n dilyn y gyntaf, ‘Golau’, a ryddhawyd ddechrau mis Rhagfyr. 

Mae Alis yn 15 oed ac fe ddaw o Gaernarfon. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen ar hyn o bryd ac wrth ei bodd yn cyfansoddi a pherfformio ei chaneuon. 

Yn ôl Recordiau Aran, yn ystod 2022 mae wedi mwynhau perfformio yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Sesiwn Fawr Dolgellau, Eisteddfod Genedlaethol Tregaron a Ffair Nadolig Glynllifon.

Mae hefyd wedi elwa’n fawr o fod ar ddau benwythnos Merched yn Gwneud Miwsig dan ofal Urdd Gobaith Cymru a Chlwb Ifor Bach yng Ngwersyll Glan Llyn yn ystod 2022 a chael cyfarfod a chyd-gyfansoddi gyda cherddorion a pherfformwyr eraill.

Mae’r sengl newydd yn gân sy’n sôn am dyfu fyny a dod i adnabod eich hun. 

“Mae dyddiau ysgol yn gyfnod lle mae cymaint o bethau yn newid mewn bywyd ac mae’r bobl o’ch cwmpas chi yn aml iawn yn newid o ran agwedd ac ymddygiad hefyd” meddai Alys.

Mae Alys hefyd wedi cyhoeddi’r fideo yma ar gyfer y trac: