Mae Alys Williams wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Côsh.
Dyma’r gân gyntaf i Alys, sydd hefyd yn aelod o’r band Blodau Papur, ryddhau dan ei henw ei hun ers 2021.
‘Cyma Dy Wynt’ ydy enw’r trac ac mae’n gyfansoddiad unigryw, ymlaciedig fydd yn aros yn eich pen am oes yn ôl Côsh.
Yn aml, mae band yn ysgrifennu a chynhyrchu cân cyn cyrraedd y stiwdio, ac artistiaid unigol yn cyrraedd y stiwdio gyda syniad syml i’w ddatblygu gyda’r cynhyrchydd. Mae Alys yn un o’r talentau unigryw hynny sy’n clywed y cynnyrch gorffenedig yn ei phen ymhell cyn mynd i’r stiwdio, ac yn mynd ati i greu demos, gyda’i llais yn chwarae’r holl offerynnau.
Mae rhai o’r melodïau yn gallu cael eu mynegi gan offerynnau arferol yn y stiwdio, ond ambell waith, does dim dewis ond i ddefnyddio llais anhygoel Alys fel yr offeryn – a dyna ddigwyddodd efo hook eiconig ‘Cyma Dy Wynt’.
Cafodd y dechneg yma ei ddefnyddio yn y gân gyntaf i Alys ryddhau fel artist solo ‘Dim Ond’, gyda hyd yn oed y cordiau’n cael eu creu drwy gyfrwng y llais.
Mae’r gân wedi ei ddewis fel Trac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru yr wythnos hon ac mae Alys wrthi’n gweithio ar fwy o ganeuon newydd gyda’r cynhyrchydd Rich James Roberts yn stiwdio Ferlas, Penrhyndeudraeth.
I ychwanegu at weithgarwch Alys Williams, bydd fideo i’r gân ‘Dal Fi Lawr’, sef sengl ar y cyd rhwng Alys ac Yws Gwynedd, yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y mis.