‘Rumpy Pumpy’ ydy sengl ddiweddaraf y band o Gaerdydd, Angel Hotel sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Rhyddhawyd y trac newydd ar ddydd San Ffolant, sef 14 Chwefror, ac mae hynny’n briodol o ystyried thema chwareus y gân.
Mae’r sengl yn rhomp tafod mewn boch, ac mae’n cyd-fynd â’r sain hiraethus chwareus y maen nhw wedi’i berffeithio ers ffurfio yn 2020.
Mae bod mewn band lle mae dau o’r sylfaenwyr hefyd yn gariadon yn golygu eu bod nhw’n fand perffaith ar gyfer cân am y ffyrdd niferus rydyn ni’n mynd ati i drafod rhyw.
“Mae Rumpy Pumpy yn archwilio ochr ysgafn y band tra’n dangos, â balchder, natur egnïol ein sioeau byw” meddai Siôn Russell Jones o’r band.
“Gyda fwy o innuendos na ffilm ‘Carry On’ ac yn brolio egni ci defaid sydd heb weld yr haul ar ei ffordd i fwydo’r hwyaid. Rydyn ni’n gobeithio y bydd ‘Rumpy Pumpy’ yn cael y suddion yn llifo yn y lleoedd iawn i gyd.”
Band indie-roc o Gaerdydd ydy Angel Hotel sy’n cael eu harwain gan y cerddor profiadol Siôn Russell Jones, sydd wedi rhyddhau cerddoriaeth yn unigol yn y gorffennol ynghyd â gyda’r ddeuawd Ginge a Cello Boi.
Aelodau eraill y grŵp ydy Carys Elen Jones (bas a llais cefndir), Barnaby Southgate (keytar) a Jordan Dibble (dryms).
Mae’r sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i rai blaenorol ganddynt sy’n cynnwys eu fersiwn o glasur y Super Furry Animals, ‘Torra Fy Ngwallt yn Hir’, a ‘Superted’ a ryddhawyd yn Ebrill 2022.
Mae’r band hefyd wedi cyhoeddi’r fideo gwych isod ar gyfer ‘Rumpy Pumpy’: