‘Angladd y Frenhines’ yn flas o albwm cyntaf Ffos Goch

Mae Ffos Goch, sef prosiect y cerddor profiadol Stuart Estell, wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 8 Medi. 

‘Angladd y Frenhines’  ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos gan y gwr o Redditch, Swydd Gaerwrangon ac mae allan ar label Recordiau Hwyrol.

Y newyddion cyffrous pellach ydy bod y sengl yma yn flas ar albwm llawn cyntaf Ffos Goch, ‘Pentre Ifan yn y Glaw’, fydd allan yng ngwanwyn 2024. Mae ‘Angladd y Frenhines’ yn gydweithrediad arbennig rhwng Stuart Estell a’r bardd John Matthews. 

Canslo Pointless…

Er bod cysylltiadau Cymreig gan Stuart, dim ond yn 2019 y dechreuodd ddysgu’r iaith o ddifri ar ôl bod yn organydd i gapel Gymraeg Loveday St yn Birmingham am 18 blynedd. Mae nawr yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i ddysgu Cymraeg Sir Benfro. 

Dechreuodd Ffos Goch fel prosiect ym Mehefin 2022 ond mae’r cerddor wedi bod yn hynod gynhyrchiol ers hynny gan ryddhau cyfres o senglau ynghyd â’r EP ‘Y Casio Gwerin’ a laniodd ym mis Gorffennaf eleni.

Mae wedi dangos eisoes nad yw’n ofni cynnwys sylwebaeth wleidyddol yn ei gerddoriaeth, ac mae hynny’n amlwg eto ar ei sengl ddiweddaraf. 

“8fed o Fedi 2022: Gwyliais y newyddion am farwolaeth y Frenhines Elisabeth yn datblygu mewn gwesty yn Hwlffordd tra o’n i yno yn mynychu hyfforddiant ar gyfer fy swydd newydd fel tiwtor Cymraeg” eglura Estell.  

“Es i i’r dafarn y noson honno a daeth rhyw foi lleol i mewn a chwyno’n ddigri, uchel ei gloch, “they’ve cancelled Pointless for this!”

“Parhaodd y sioe alarus am byth, wrth gwrs – dyna sut oedd hi’n teimlo, o leia’. Fy nghanlyniad creadigol cyntaf oedd y gerdd a ddatblygodd yn y gân ‘Olion yr Hen Hualau’ ar ôl i fi ymweld â Chapel Celyn er mwyn osgoi’r holl ffwdan am yr Angladd mewn fordd addas. Yr ail ganlyniad yw’r darn hwn.”

Meddwl am y glowyr

Cododd yr angladd deimladau tra gwahanol ar ei bartner ar gyfer y trac, sef y bardd John Matthews.

“Wrth i fi edrych ar yr orymdaith angladdol oedd yn drewi o fraint gyda’r cerdded undonog, seremonïol, halodd e i fi feddwl am y glowyr (a’r chwarelwyr) oedd rhaid brwydro eu ffordd ar hyd y llwybrau peryglus cyn dechrau ar eu gwaith annioddefol yn y pyllau glo.” 

Mae ‘Angladd y Frenhines’ allan yn ddigidol ar safle Bandcamp Ffos Goch ac ar y llwyfannau arferol eraill.