Bydd y gantores electro-pop Ani Glass yn cynnal sgwrs gydag un o sêr pêl-droed mwyaf Croatia ac Ewrop yn y 1990au.
Bydd tîm rhyngwladol cyfredol Croatia yn herio Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 15 Hydref, ond y noson flaenorol 14 Hydref, bydd sgwrs arbennig gyda chyn ymosodwr y wlad Davor Šuker yng nghanolfan Chapter yn Nhreganna.
Cynhelir y sgwrs unigryw am 16:00 ac fe’i drefnir gan Ŵyl y Wal Goch, sef gŵyl sy’n dathlu pêl-droed a chelfyddydau Cymru a sefydlwyd yn Wrecsam llynedd.
Eleni mae’r gweithgareddau wedi’u gwasgaru ac yn digwydd yn Wrecsam, Abertawe a Chaerdydd rhwng 10 a 15 Hydref.
Yn ogystal â bod yn brif sgoriwr Croatia, chwaraeodd Davor Šuker i glybiau Real Madrid, Arsenal, Sevilla ac 1860 Munich ymysg eraill. Bu hefyd yn llywydd Cymdeithas Bêl-droed Croatia rhwng 2012 a 2021.
Bydd yr ymosodwr yn sgwrsio gydag Ani am ei yrfa, pêl-droed a Chroatia yn gyffredinol – roedd Šuker yn un o’r genhedlaeth honno o chwaraewyr a ddechreuodd ei yrfa ryngwladol gydag Yugoslavia cyn i’r wlad honno chwalu ym 1992 gan rhannu’n wledydd Bosnia Herzegovina, Croatia, Macedonia, Montenegro, Serbia a Slovenia.
Yn ogystal â bod yn seren bop, mae Ani Glass hefyd yn academydd ac yn gefnogwr pêl-droed mawr, a felly’n berson perffaith i arwain y sgwrs gyda’r seren bêl-droed.
Yn dilyn y sgwrs, bydd gig gyda’r hwyr fel rhan o’r ŵyl yng Nghlwb Rhyddfrydol Treganna – Voya, Nookee, Don Leisure fydd yn perfformio.
Mae mwy o wybodaeth am y digwyddiad ar wefan Gŵyl y Wal Goch.