Awst yn ôl gydag ‘Afallon’

Mae Awst, sef prosiect unigol y cerddor Cynyr Hamer, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf. 

‘Afallon’ ydy enw’r trac sydd allan yn ddigidol, ac mae’r cerddor hefyd wedi cyhoeddi fideo ar-lein i gyd-fynd â’r sengl. 

Mae’r trac yn ymddangos ar albwm diweddaraf Awst, ‘Mewn Côf’, a ryddhawyd ddiwedd mis Awst eleni. 

Awst ydy prosiect diweddaraf Cynyr Hamer sy’n gyfarwydd fel aelod o sawl band dros y blynyddoedd gan gynnwys Worldcub (CaStLeS gynt), Hippies vs Ghosts ac We Are Animal.

Mae ‘Afallon’ yn gân chwerwfelys sy’n dwyn yn ôl atgofion o blentyndod Cynyr ac yn benodol o hirddyddiau haf yng nghartref ei nain a’i daid yn y 1990au. 

Mae’r fideo hefyd yn rhannu’r un teimlad a’r trac wrth i’r cerddor ddefnyddio cyfres o ffilmiau cartref o’r cyfnod dan sylw. 

“Mae’r gân yn sôn am y teimlad chwerwfelys o beidio byth a gallu mynd yn ôl i ryw amser a lle” meddai Cynyr am ‘Afallon’. 

“Yn yr achos hwn, y lle yw hen gartref ein nain a taid, ac atgofion melyn plentyndod o fod yno trwy hafau y 1990au.

“Dros y blynyddoedd mae cartref nain a taid wedi dod yn lle hudolus chwedlonol sy’n bodoli yn ein hatgofion yn unig, fel stori chwedlonol Avalon. Mae’r fideo ar gyfer y gân yn giplun o’r lle a’r amser hwnnw, wedi’i ffilmio gan ein tad trwy camcorder eithaf mawr!” 

Dyma fideo ‘Afallon’: