Awst yn rhyddhau ‘Aros Tan Ddydd’

Mae’r artist o Arfon, Awst, wedi rhyddhau sengl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 11 Awst. 

‘Aros Tan Ddydd’ ydy enw’r trac a dyma’r ail sengl oddi ar albwm newydd y cerddor.

Awst ydy prosiect diweddaraf Cynyr Hamer o Geunant ger Caernarfon. Mae Cynyr yn gerddor profiadol sydd wedi bod yn aelod o sawl band dros y blynyddoedd gan gynnwys Worldcub (CaStLeS gynt), Hippies vs Ghosts ac We Are Animal.

Mae ei sengl ddiweddaraf allan ar label Recordiau Ratl ac yn rhagflas pellach o’i record hir newydd fydd yn cael ei ryddhau dan yr enw ‘Mewn Côf’. Dyma fydd ail albwm Awst ac fe fydd yn glanio ar ddiwedd mis Awst. 

Mae ‘Aros Tan Ddydd’ yn ddilyniant i’w sengl ddiwethaf, ‘Hafan’ a ryddhawyd ym mis Mehefin eleni. 

“Mae’r gân yn dwyn i fyny teimlad melancolaidd a hiraethus o amser sydd wedi ei golli” eglura Cynyr am ‘Aros Tan Ddydd’.