Mae un o gerddorion mwyaf profiadol a chynhyrchiol Cymru, Gai Toms, wedi ryddhau ei albwm diweddaraf.
Baiaia! ydy enw’r casgliad diweddaraf gan Gai, y cerddor-fardd o ‘Stiniog, a dyma’i chweched albwm stiwdio hyd yn hyn.
Yn y gorffennol mae Gai wedi arbrofi tipyn gyda chasgliadau cysyniadol, ond y tro hwn mae’n cymryd cam yn ôl ar hynny gan adael i’r caneuon fodoli yn eu bydysawd bach eu hunain, er y gweadau sonig tebyg sy’n eu plethu.
O’r gân agoriadol emosiynol “new wave” ‘Y Berllan’, i’r pop-roc chwerw felys ‘Melys Gybolfa’, cawn gipolwg ar ei feddylfryd ôl-bandemig y canwr-gyfansoddwr amryddawn.
Mae prydferthwch ‘Pen Llŷn’ yn lonyddwch ac yn fyfyrdod angenrheidiol ynghanol bwrlwm yr albwm, cyn neidio’n syth i fusion 80au y gân ‘Neidia’ ac i arch-arwriaeth indi ‘Hed, hed, hed’.
Mae ‘Gwlad yn ein pennau’, sy’n gân ei fand Anweledig na chafodd ei recordio, yn anthem i ddyfodol gwell, ac yn cynnwys llais neb llai na (drum roll!) – Ceri Cunnington, sef ffryntman enigmatig Anweledig.
Mae’r albwm yn gorffen yn bositif mewn arddull Cure-aidd, gyda’r teitl-tdrac – ‘Baiaia!’.
Caneuon uwch-dempo
Ar y cyfan, casgliad o ganeuon bachog roc “neo-wave” yw Baiaia!, ond gyda naws delynegol, emosiynol ac ysbryd gwerin Gai Toms yn llifo drwyddo.
“Roeddwn isio mwy o ganeuon uwch-dempo i’r repertoire byw”, meddai Gai wrth drafod y casgliad
“Felly dwi’n hapus iawn efo Baiaia! yng nghyd-destun hynny. ‘Rydw i’n gyfansoddwr profiadol bellach, ond weithia mae angen camu ‘nôl o’r gor-feddwl a symleiddio pethau, ac wrth symleiddio mae gonestrwydd ac emosiwn yn treiddio’n rhwydd i’r caneuon.
“Dwi’n teimlo mod i wedi gorfod mynd drwy’r felin i sylweddoli a gwerthfawrogi hynny. Tyfodd Baiaia! yn organig, a’r caneuon fel planhigion! Hedyn y syniad, pridd y creu, wedyn dŵr a haul y band ymroddgar a phersonel stiwdio.
“Wrth gwrs, mae maint y potyn yn effeithio’r tyfiant, ac yn fetaffor i gyllidebau’r Sin Roc Gymraeg y dyddiau hyn… ond hei, llafur cariad – Baiaia!”
Ail albwm ‘y cyfnod clo’ i ddod
Cyfansoddwyd caneuon Baiaia! yn ystod haf 2022, gan fynd i Stiwdio Sain, Llandwrog gyda’r band dros y Pasg, 2023 i recordio.
Yn ymuno ar yr albwm mae Euron ‘Jos’ Jones (gitâr flaen), Nicolas Davalan (bas), Dion Evans-Hughes (drymiau) gyda Gai ar y gitâr, synths ac offer taro. Mae’r lleisiau cefndir gan Steffan Harri ac Elaine Thomas-Gelling a lleisiau ychwanegol gan Ceri Cunnington, Hanna Seirian, Gwenlli Evans, Rhian Medi, Tanya Woolway, Non Roberts ac Einir Humphreys.
Gai ei hun fu’n cynhyrchu ac Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog) yn peiriannu a chyd-gynhyrchu, ac fel brodor o Ben Llŷn mae Aled yn ymddangos ar y bas ar y gân ‘Pen Llŷn’ (Trac 5). Recordiwyd y lleisiau, y synths a’r offer taro yn Stiwdio Sbensh, sef stiwdio Gai, ac Ifan Emlyn sy’n gyfrifol am y gwaith cymysgu.
Ers y clo mawr, mae Gai Toms wedi cyfansoddi dau albwm, ond Baiaia! yw’r cyntaf i lanio.
Mae’r llall, ‘Y Filltir Gron’, wedi ei roi ar y silff, er bod dwy gân o’r casgliad – ‘Pobl dda y tir’ a ‘Coliseum’ wedi’u rhyddhau’n barod.
Dyma’r teitl drac sy’n cloi’r albwm: