‘Balls’ i HMS Morris

Mae HMS Morris wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, a thrydedd sengl eu halbwm nesaf, Dollar Lizard Money Zombie.

‘Balls’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y grŵp sydd wrthi’n paratoi i ryddhau eu halbwm newydd ar 15 Medi.

Bydd y band hefyd yn mynd ar daith ym mis Hydref gan ymweld ag Aberteifi, Blaenau Ffestiniog, Caerdydd ac Abertawe yng Nghymru, ynghyd ag yn Llundain, Bryste, Rhydychen a Chaer yn Lloegr.

Ac os nad ydy hynny’n ddigon, mae fideo ar gyfer ‘Balls’ wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau Lŵp hefyd!