Blas cyntaf o albwm nesaf Los Blancos

Mae Los Blancos wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Libertino. 

Y newyddion da pellach ydy mai dyma’r sengl gyntaf i weld golau dydd o ail albwm y band o Sir Gâr. 

‘Christine’ yw’r sengl gyntaf oddi ar ail albwm hir ddisgwyliedig yr arwyr garage, slacker pync. 

Dyma hefyd ydy’r gân gyntaf lle mae Osian Owen, gitarydd arferol y band, i’w glywed fel y prif leisydd. 

Mae ‘Christine’ yn adrodd stori am wrthryfel ganoloesol a dewder merch mewn cyfnod lle nad oedd gan fenywod lais mewn cymdeithas batriarchaidd. Mae ‘Christine’ hefyd yn pwyso’n drwm ar wreiddiau pync y band, riffs llawn adrenalin a lleisiau cefn angerddol. 

“Mae hon yn gân am Christine de Markyate, menyw Saesneg o’r 12fed ganrif oedd yn gwrthod cael ei gorfodi i briodi gan ei theulu” eglura Osian.  

“Nath hi ddianc wedi gwisgo fel dyn a throi yn flaenores mewn convent, ar ôl cau ei ‘suitor’ cynta’ yn ystafell ei hunan a chuddio o’r llall tu ôl tapestry

“Nes i ysgrifennu e yn ystod lockdown ar ôl bod yn gwrando ar lot o Black Flag a Trash Talk, sydd yn dangos yn y gitars cyflym/amrwd. Da’th y lyrics ar ôl darllen un o lyfre hanes Terry Jones lle odd e’n sôn am Christine, ac o ni’n edmygu pa mor gryf a phenderfynol oedd hi.”