Blas cyntaf o albwm nesaf The Gentle Good

Mae The Gentle Good wedi rhyddhau ei sengl newydd yr wythnos hon fel blas cyntaf o’i albwm nesaf – ‘Pan own i ar Foreddydd’ ydy enw’r trac newydd gan brosiect unigol Gareth Bonello. 

Bydd y cerddor gwerin o Gaerdydd yn rhyddhau ei bumed albwm ym mis Medi 2023 dan yr enw Galargan.

Mae’r  record hir newydd yn gasgliad cynnil o ganeuon gwerin Cymreig, wedi’u perfformio gyda gitâr acwstig llais a’r soddgrwth. 

Trefnwyd y caneuon yn ystod arwahanrwydd y pandemig ac mae’r record wedi’i drwytho gan deimladau o brudd-der dihangol sy’n deillio o alar yr amseroedd hyn.

‘Pan own i ar Foreddydd’ yw sengl gyntaf a thrac agoriadol Galargan. 

Mae’r gân i’w canfod yng nghasgliad Meredydd Evans a Phyllis Kinney yn y Llyfrgell Genedlaethol ac yn perthyn i’r caneuon enwog ‘Y Bore Glas ’a ‘Early One Morning’ y traddodiad Saesneg.

Recordiwyd y trac gan Frank Naughton yn stiwdios Tŷ Drwg yng Nghaerdydd.