Mae Awst wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 30 Mehefin.
‘Hafan’, ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Ratl, ac sydd hefyd yn flas cyntaf o albwm newydd yr artist.
Prosiect Cynyr Hamer, cerddor o Geunant ger Caernarfon yw Awst, ac mae wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth ers 2021. Mae Cynyr yn gerddor amlwg sydd wedi bod yn aelod o sawl band dros y blynyddoedd gan gynnwys Worldcub (CaStLeS gynt), Hippies vs Ghosts ac We Are Animal.
Mae ei sengl newydd ‘Hafan’, yn sizzle lo-fi gydag is-dôn drofannol, ac mae’n gweld yr artist yn hiraethu am ddyddiau hir yr haf.
Mae llond llaw o ddeunydd i enw Awst bellach, gan gynnwys ei albwm cyntaf ‘Haul / Lloer’ a ryddhawyd fis Awst diwethaf, yn ogystal â’i albwm hunan-deitlog dilynol ‘Awst’.
Yn nodweddiadol o ganeuon Awst mae alawon acwstig, gitars a synths breuddwydiol ac ambell i gorn hefyd. Wedi chwarae yn FOCUS Wales a gig ‘Dydd Miwsig Cymru’ FOCUS Wales eleni, bydd Awst yn rhyddhau mwy o ddeunydd dros yr haf.
Bydd ‘Hafan’ yn ymddangos ar ei albwm newydd ‘Mewn Côf’ fydd allan fis Awst eleni.