Bocs set Catatonia ar y ffordd fis Awst

Mae Cerys Matthews wedi cyhoeddi y bydd bocs set ei chyn fand, Catatonia, yn cael ei ryddhau fis Awst eleni. Ffurfiwyd Catatonia ar ddechrau 1990au gan Cerys a Mark Roberts (MR) a’r aelodau eraill oedd Owen Powell, Paul Jones ac Aled Richards.

Chwalodd y band yn sydyn yn 2001 yn fuan ar ôl rhyddhau eu pedwerydd albwm stiwdio sef ‘Paper Scissors Stone’ a’r bocs set newydd fydd y cynnyrch cyntaf i ymddangos ganddynt ers hynny.

‘Make Hay Not War: The Blanco y Negro Years’ fydd enw’r bocs set 5 CD a fydd yn cael ei ryddhau ar 25 Awst.

Mae’n debyg bydd y casgliad yn cynnwys pedwar albwm stiwdio Catatonia, ynghyd â thraciau bonws ac ochr-b, cymysgiadau amgen, demos a chaneuon sydd heb gael eu rhyddhau o’r blaen. 

Dyma un o ganeuon cynnar, a gorau Catatonia, ‘Gyda Gwên’: