“Boncyrs” bod ‘Sebona Fi’ yn croesi miliwn ffrwd ar Spotify

‘Sebona Fi’ gan Yws Gwynedd ydy’r gân Gymraeg ddiweddaraf i gael ei ffrydio dros filiwn o weithiau ar y prif lwyfan ffrydio cerddoriaeth, Spotify. 

Cyrhaeddodd cân enwocaf Yws y garreg filltir ar ddydd Sul 23 Mehefin. 

Dyma’r wythfed trac Cymraeg i groesi’r ffigwr arwyddocaol ac yn ôl y canwr enigmatig mae’n “bocyrs bod y ffigwr yna wedi’i gyrraedd”. 

Fel mae’n digwydd, y label recordiau sy’n cael ei redeg gan Yws oedd yn gyfrifol am ryddhau’r trac Cymraeg cyntaf i groesi miliwn ffrwd ar Spotify, sef ‘Gwenwyn’ gan Alffa a gyrhaeddodd y garreg filltir yn Rhagfyr 2018. Mae’r gân honno wedi’i ffrydio dros 3.5 milwn o weithiau ar y platfform bellach. 

Mae ail gân Gymraeg gan Alffa hefyd wedi croesi miliwn ffrwd sef ‘Pla’, ynghyd â’u trac Saesneg ‘Full Moon Vulture’. 

Cyrhaeddodd ‘Fel i Fod’ gan fand cyfoes cyfredol arall, Adwaith, y garreg filltir yn gynharach eleni ym mis Chwefror. Mae dwy gân Gymraeg Gorkys Zygotic Mynci wedi croesi’r miliwn sef ‘Patio Song’ a ‘Sbia ar y Seren’ ynghyd ag ‘Yma o Hyd’ gan Dafydd Iwan a ‘Dan y Dŵr’ gan y gantores Wyddelig enwog, Enya. 

Bach o obaith am y dyfodol

“[Mae’n] jyst boncyrs rili fod y ffigwr yna wedi’i gyrraedd mewn unrhyw ffordd” meddai Yws Gwynedd wrth drafod y newyddion gyda’r Selar.

“Cyn gallu gweld ffigyrau ffrydio, oedd o’n anodd iawn gwybod faint o bobl oedd yn gwrando ar gerddoriaeth Gymraeg. 

“Ma gwbod fod ‘na bosib cael dy gerddoriaeth di i’r fath rifau’n dangos fod ‘na bobl allan yna sy’n gwrando ac yn mwynhau. Ma’n rhoi bach o obaith i chdi hefyd am y dyfodol.”

Dyma’r drydedd cân i’w rhyddhau ar label Côsh sydd wedi croesi miliwn ffrwd ar Spotify – gormod o gyd-ddigwyddiad does bosib, yn enwedig o ystyried bod Yws yn dipyn o gîc pan mae’n dod at ystadegau!

“Swni’n caru gwbod be ydi’r gyfrinach” cyfaddefa Yws.

“Y gwir ydi, mae ’na rai petha sydd tu hwnt i be da ni’n gallu gwbod. Bach o dark arts. ‘Gwenwyn’ gan Alffa oedd y cynta i gyrraedd miliwn ar Spotify, oedd hwnna’n bach o sioc i ni, ond wnaeth rhywun yn Spotify fwynhau hi a wedyn ath hi o nerth i nerth.

“Un peth da ni’n trio neud efo Côsh ydi neud pob dim mor broffesiynol ag sy’n bosib, wedyn mae pob dim yn ei le os mae ‘wbath yn cael ’chydig o sylw er mwyn gwneud yn siŵr fod hynny’n arwain at rywbeth solid wedyn. Mae dyfodiad [asiantaeth] Pyst wedi gwneud hyn yn haws yn y blynyddoedd diwethaf a ma na bach o deimlad fel bod y sin gyfa’ bach mwy proffesiynol yn sgil hynny – ma ’na doman o labeli gwych Cymraeg rŵan sy’n gwneud gwaith gwych yn hyrwyddo’u hartistiaid, sy’n wrthgyferbyniad llwyr i’r gorffennol pan oedd na 2 neu 3 mawr yn gorfod gwneud pob dim.”

Ffeindio’r fformiwla

Yws Gwynedd – Gwobrau’r Selar Chwefror 2016 (Llun: Celf Calon)

Felly mae’n amlwg bod yna elfen o lwc pan ddaw at lwyddo i gael cân ar restr chwarae boblogaidd, ac yna denu pobl i glicio’r botwm chwarae arni. Ond dim ots pa iaith ydy hi, cân dda ydy cân dda, ac mae hynny’n siŵr o fod yn hanfodol i’r fformiwla?

“Y peth od am gân ‘da’, ydi ti’m rili’n gwbod be sy’n mynd i landio” meddai Yws.

“Fedri di feddwl fod cân yn wych a dio’m un cyrraedd nunlla, neu fedri di feddwl bod o’n shit a ma pawb yn lyfio fo! O ran cracio’r cyfrwng, dwi’n meddwl fod o werth deud ma’i Spotify ydi lle mae 80% o bobl yn ffrydio’u cerddoriaeth nhw. Pan ti’n gwbod hynny, mae’n naturiol i wthio pethau ar y cyfrwng yna fwya’, ond ma pawb yn gwbod fod hynny ddim yn grêt i’r artist oherwydd yr arian tila sydd ar gael yna.”

Ydy, mae’n debyg bod pawb wedi clywed y gwyn am y ffaith mai ychydig iawn o arian mae artistiaid yn ei ennill am bob tro maen eu caneuon nhw’n cael eu chwarae ar Spotify, ond mae gan Yws wrth ddadl ddifyr i hynny.

“Yr hyn sydd yn wahanol yn y byd ffrydio, ydi fod cân boblogaidd yn mynd ymlaen i ennill arian am gyfnod hirach. Mae ‘Sebona Fi’ yn 9 oed bellach ac yn cael ei ffrydio tua 800 gwaith pob diwrnod. Os fysa rhywun wedi prynu CD 9 mlynedd yn ôl, fysai’r incwm yna wedi bod drosodd o fewn y flwyddyn gynta’, lle mae ’na bosib, gobeithio, fydd ‘Sebona Fi’ yn gallu creu digon o cash i brynu peint neu ddau i fi pob wsos pan fydda’i di ymddeol!”

Pwysigrwydd rhestrau chwarae

Yws Gwynedd, Ems a Rich gyda llwyth o wobrau Gwobrau’r Selar 2016 (Chwefror 2017)

Yn sicr mae ‘Sebona Fi’ yn un o’r caneuon yna y byddech chi’n disgwyl  i gael ei chwarae’n rheolaidd, yn draddodiadol ar y radio, am ddegawdau i ddod felly hawdd dychmygu y bydd yr un peth yn wir amdani ar y llwyfannau ffrydio.

Ond mae’r sôn am oedran y trac yn codi cwestiwn arall – a hithau’n gân mor eithriadol o boblogaidd, pam ei bod hi wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y ffigwr yna o filiwn ffrwd? Yn enwedig o ystyried bod ‘Gwenwyn’ gan Alffa wedi cyrraedd y rhif o fewn ychydig fisoedd – roedd cyfle cyntaf i glywed y trac ar wefan Y Selar ym mis Gorffennaf 2018, ac erbyn mis Rhagfyr y flwyddyn honno roedden ni’n torri’r newyddion ei bod wedi cael ei chwarae dros 1,000,000 o weithiau ar Spotify. Ac yn wir, erbyn y mis Tachwedd canlynol roedd y ffigwr wedi treblu!

Bu tipyn o sôn ar y pryd am y ffaith bod ‘Gwenwyn’ wedi llwyddo i gael ei chynnwys ar ambell restr chwarae dylanwadol oedd wedi rhoi hwb mawr i boblogrwydd y trac, ond ai dyna’r gwahaniaeth?

“Pan mae Spotify’n cefnogi cân gyda rhestr chwara, mae rhifau mawr yn gallu cael eu cyrraedd yn weddol handi” eglura Yws.

“Mae llwyddiant y gân wedyn yn dibynnu ar faint o bobl sy’n gwrando, sgipio hi, adio hi i’w rhestrau chwarae personol, yn rhoi ‘hoffi’ i’r gân neu’n dilyn y band. Fel’na dwi di tybio mae’r algorithm yn gweithio ond ella bo fi’n hollol anghywir.

“Felly hyd yn oed os ti’n cael cefnogaeth rhestr chwara, tydi cân ddim yn garantîd o rifau mawr os nad ydi’n cydio yn nychymyg y gwrandäwr. Ma ’na arbrawf meddwl bach fyddai’n licio neud o dro i dro i drio meddwl pa ganeuon oedd allan cyn i Spotify ddod i fodolaeth fyddai wedi cael miliwn erbyn rŵan. Nawn ni fyth w’bod, ond diolch i’r ffaith bod Spotify’n gwneud stats yn rhydd i bawb weld, fedrwn ni ddyfalu.”

Gwerth y gamp

Er bod y cerddor yn gobeithio bydd ‘Sebona Fi’ yn darparu pres peint iddo am flynyddoedd i ddod, mae’r cwestiwn mawr yn parhau ynglŷn ag i ba raddau mae Spotify yn cynnig digon o gefnogaeth i artistiaid yn ariannol.

Dim ond wyth o ganeuon Cymraeg sydd wedi cyrraedd y ffigwr o filiwn ffrwd hyd yn hyn, a gobeithio bydd mwy yn dilyn, ond hyd yn oed wedyn mae’n amlwg nad ydy’r platfform yn gallu cynnig bywoliaeth i artistiaid.

Ar ôl i Alffa groesi’r miliwn gyda ‘Gwenwyn’, fe ofynnodd Y Selar i Yws Gwynedd, gan wisgo ei het fel rheolwr eu label, beth oedd hyn yn ei olygu’n ariannol iddyn nhw a’i ateb oedd “bod yr incwm ddaw o hyn yn mynd i ariannu albwm cyfan i’r band.” Felly yr un ydy’r cwestiwn iddo wrth i’w drac ei hun gyrraedd y ffigwr hudol hwnnw…

“Dim llawer o ddim byd yn anffodus” meddai.

“Ma miliwn o ffrydiau werth tua £3k, ond wrth gwrs, dros 9 mlynedd, di hynna ddim yn llawer pob blwyddyn. Da ni wastad yn edrych i ffeindio’r ffordd newydd o alluogi cefnogwyr i helpu ariannu bandiau.

“Mae Bandcamp yn un ffordd ma rhai artistiaid di mynd lawr lle ma pobl yn prynu’r caneuon. Mae gwerthu nwyddau’r band fel crysau T a chapiau’n gallu bod yn ddefnyddiol ond wrth gwrs mae hynny’n golygu fod y band yn gorfod gigio i gymryd mantais llawn o hynny. Mae pethau fel Patreon a Buy Me a Coffee yn opsiwn i’r artistiaid sy’n fodlon creu cynnwys yn gyson, ond mae rhywbeth fel hyn yn anodd oherwydd cystadleuaeth, yn enwedig gan fod y gwrandäwr arferol yn talu’n fisol i un o’r platfformau ffrydio’n barod.

“Y gobaith gena’i ydi fod un o’r rheiny’n penderfynu creu model ceiniog y ffrwd ar ffurf “pay as you go”, fysa hyn yn galluogi’r gwrandawyr i allu ffrydio hyd at tua mil o ganeuon y mis am yr un pris a thanysgrifiad misol arferol Apple Music neu Spotify. Fysa hyn yn gallu treblu’r arian mae artistiaid yn ei dderbyn. Yn ddiddorol iawn, mae’n edrych mai’r cyfrwng fyddai’n gallu gwneud hyn ydi NFTs, ond mae honna’n sgwrs gymhleth a dadleuol.”

O ydy! Ac efallai ei bod hi’n arwyddocaol mai un o’r unig gerddorion Cymraeg i arbrofi gydag NFTs hyd yn hyn ydy Griff Lynch, ac roedd hynny dros ddwy flynedd yn ôl! Gwell gadael y drafodaeth honno ar gyfer rhywdro yn y dyfodol.

Yn y cyfamser, fe wnawn ni fanteisio ar y cyfle i longyfarch Yws ar lwyddiant ‘Sebona Fi’, gan edrych ymlaen at weld pa drac Cymraeg fydd y nesaf i ymuno a Chlwb y Miliwn Ffrwd.

Gyda llaw, tydi fideo’r gân ddim yn rhy bell o gael ei chwarae miliwn o weithiau ar YouTube chwaith!

Ni fydd Yws Gwynedd yn perfformio’n ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni, ond bydd cyfle i’w weld nos Wener yma, 4 Gorffennaf, yn Y Madryn, Chwilog nid nepell o faes yr Eisteddfod gyda Fleur De Lys yn cefnogi.

 

Prif Lun: Yws Gwynedd @ Gwobrau’r Selar, Chwefror 2017 (Celf Calon / Y Selar)