Mae’r band roc o Gaerdydd, Breichiau Hir, wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Mercher 22 Tachwedd.
‘Penseiri’ ydy enw’r sengl gyntaf i lanio gan y band ers 2021 ac mae allan ar label Recordiau Libertino.
Ysgrifennwyd y gân rhwng rhyddhau eu halbwm cyntaf ac ysgrifennu eu hail albwm fydd yn dilyn yn 2024, ac mae’r band wedi bod yn perfformio’r trac mewn gigs byw yn barod.
“Penseiri oedd y gân gyntaf i ni ei hysgrifennu ar ôl ein halbwm cyntaf” meddai’r band.
“Roedd y gân yn teimlo fel cyfeiriad newydd i’r band, lle aethon ni gyda riff mawr fel hook i’r gân. Rydyn ni wedi ei chwarae’n fyw ychydig o weithiau bellach ac mae’n un o’r rhai mwyaf hwyliog i’w berfformio oherwydd ei natur ffrwydrol.”
Mae’r band yn gyfarwydd am eu sŵn trwm a themâu tywyll, ac mae hyn yn amlwg unwaith eto ar ‘Penseiri’.
“Mae’r gân yn archwilio’r thema o adeiladu carchar eich hunain, yn ddiarwybod. Yn wreiddiol, roedd y geiriau wedi’u cysylltu’n agos â stori fer Shirley Jackson, ‘The Lottery’, sy’n adrodd stori sinistr am dref gyda thraddodiad creulon blynyddol i warantu cynhaeaf da a chael gwared ar argoelion drwg.
“Y fwyaf oni’n ysgrifennu ac ailddrafftio’r geiriau, symudodd y ffocws tuag at arferion personol unigolion. Mae’r arferion hynny yn darparu ymdeimlad twyllodrus o ryddid a rheolaeth, ac yn y pen draw, yn cyfrannu at greu carchar eu hunain. Mae’r gân wedi’i hysgrifennu am ddod o hyd i gysur yn eich carchar eich hunain.”
Arhosodd y band yn gynhyrchiol drwy gydol y cyfnod clo, gan ddal y sylw gydag eu fersiwn o ‘Y Bardd O Montreal’ fel sengl b-side, golwg wahanol ar drac Bryn Fôn. Bu i Ritzy o The Joy Formidable recordio cyfyr o’u sengl ‘Yn Dawel Bach’ gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn ystod y cyfnod hwn hefyd, a bu i’r band ryddhau cyfres o senglau i hyrwyddo eu halbwm cyntaf, ‘Hir Oes I’r Cof’, a gafodd ei ryddhau ym mis Tachwedd 2021.
Aeth y band ymlaen i gael eu blwyddyn brysuraf o gigs yn 2022, cyn rhyddhau eu halbwm byw yn haf 2023. Mae’r band wedi bod yn brysur yn recordio eu hail albwm dros y misoedd diwethaf a bydd yn cael ei ryddhau yn 2024.