Breichiau Hir yn ryddhau fersiwn ‘byw’ o’u halbwm

Heb os, mae Breichiau Hir yn cael eu gweld fel un o fandiau byw mwyaf egniol Cymru, felly efallai nad yw’n syndod eu gweld yn rhyddhau record sy’n berfformiad byw o’u halbwm cyntaf, Hir Oes i’r Cof. 

Hir Oes I’r Cof: Yn Fyw O One LouderStudios ydy enw’r albwm newydd ac fel mae’r enw’n awgrymu fe gafodd ei recordio yn ail gartref y band, One Louder Studios, yng Nghasnewydd.

Yn ôl y Breichiau Hir mae’r sesiwn fyw hon yn arddangos egni ffrwydrol y band a’u hymrwymiad parhaus i gyflwyno profiad byw dwys a theimladwy. 

Rhyddhawyd albwm llawn cyntaf Breichiau Hir, ‘Hir Oes i’r Cof’ ym mis Tachwedd 2021. Flwyddyn ar ôl rhyddhau’r albwm, dychwelodd Breichiau Hir i’r union ystafell lle recordiwyd y caneuon ddwy flynedd ynghynt. Mae’r sesiwn fyw yn dyst i dwf y band a’u hangerdd dros berfformio.

“Band byw yw Breichiau Hir, dyna lle mae popeth yn dod at ei gilydd” meddai prif leisydd y band, Steffan Dafydd, wrth rannu ei gyffro am y prosiect.  

“Dyma lle ni’n ffeindio ffans newydd a dyma lle mae caneuon ni yn dod yn fyw.” 

Rhwystredigaeth y cyfnod clo

Mae perfformiadau byw y band wastad wedi bod yn brofiad trawsnewidiol ac mae’r albwm hwn yn dathlu’r cysylltiad arbennig hwnnw gyda’u cynulleidfa.

Ysgrifennwyd ‘Hir Oes I’r Cof’ gyda’u sioe byw mewn golwg, gan anelu at greu caneuon a fyddai’n tanio yn nychymyg y gynulleidfa. Er hynny, gorfododd y pandemig i’r band ddal gafael ar yr albwm, gan aros yn amyneddgar nes gallu ei ryddhau unwaith roedd modd ei berfformio’n fyw. 

“Odd eistedd ar yr album dros y pandemig yn gymaint o her i ni, gyda ni’n ysu yn ddiamynedd i gael e’ mas a’i chwarae i bawb” meddai Steffan Dafydd am y cyfnod anod i’r band. 

Heb ymddangos ar lwyfan am amser hir yn sgil y pandemig, lansiad yr albwm oedd gig iawn gyntaf y band ers sbel. Roedd yn brofiad emosiynol iawn i’r aelodau wrth iddynt, o’r diwedd, gael y cyfle i ryddhau a pherfformio’r caneuon yr oeddent wedi’u meithrin yn ofalus dros y 18 mis diwethaf. 

“Roedd gorfod cadw’r caneuon yna’n dawel am tua 18 mis ac yna’n sydyn iawn cael eu rhyddhau a’u chwarae’n uchel yn brofiad llethol,” meddai Dafydd.

Yn dilyn lansiad yr albwm, aeth Breichiau Hir ymlaen i gael un o’u blynyddoedd brysuraf hyd yma, ac mae’r sesiwn fyw Hir Oes I’r Cof: Yn Fyw O One Louder Studios yn ddathliad o daith y band dros y 12 mis hwnnw, yn dychwelyd i gerddoriaeth fyw. Mae’n cynrychioli carreg filltir i’r band ac yn eu paratoi at gymryd eu camau nesaf, wrth iddynt baratoi i ddychwelyd i’r stiwdio yn fuan.

Fis Tachwedd llynedd fe wnaeth y band gyhoeddi fideo o’u hunain yn perfformio’r albwm llawn yn fyw yn y stiwdio ar-lein: