Breuddwyd Tegid Rhys

Yn dilyn rhyddhau ei albwm cyntaf, ‘Pam Fod y Môr Dal Yna?’ yn 2019, mae’r cerddor gwerin Tegid Rhys yn ei ôl gyda sengl newydd sbon, ‘Y Freuddwyd’. 

Rhyddhawyd y sengl newydd ar  ddydd Gwener 17 Mawrth ar Recordiau Madryn.

Wedi ei recordio yn ei stiwdio gartref ac yn stiwdio Sain, cynhyrchwyd ‘Y Freuddwyd’ gan Aled Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), sydd hefyd yn chwarae bas ar y trac. 

Hefyd yn ymuno â Tegid Rhys ar y sengl mae Osian Huw Williams (Candelas, Siddi), a gyfrannodd ar y drymiau. 

Gydag ‘Y Freuddwyd’, mae Tegid yn cymryd ysbrydoliaeth gan ei gariad at gerddoriaeth Americana ac mae’n ei blethu gyda’i naws werin amgen/seicadelig a’i lais bregus, dyrys ac angerddol sy’n swyno’r gwrandäwr i’r ymdeimlad o agosatrwydd.

Mae Tegid Rhys wedi hen arfer ysgrifennu caneuon cain, tyner ac emosiynol ond mae’n mynd a hynny gam ymhellach yn ‘Y Freuddwyd’. 

“Yn y bôn, mae ‘Y Freuddwyd’ yn ‘vignette’ ges i yn fy meddwl ryw ddiwrnod pan o’n i yn fy nghar” meddai Tegid am ei sengl ddiweddaraf. 

“Dwi ddim yn meddwl bod y freuddwyd neu daydream ’ma wedi para mwy nag ychydig eiliadau, ond roedd yr olygfa a welais yn adrodd stori glir o fy ngorffennol, presennol, dyfodol a fy ‘nhu hwnt’ mewn rhyw fath o olygfa sinematig. 

“Be synnodd fi fwyaf oedd ei fod wedi codi pynciau i’r wyneb doeddwn erioed wedi eu hystyried mewn gwirionedd o’r blaen na hyd yn oed wedi meddwl amdanynt. Yn ‘Y Freuddwyd’ dwi’n ysgrifennu hanes y ‘vignette’ yma. Er efallai ei bod hi’n ymddangos fel cân gymharol fer, mae’n llawn ystyr i mi a hyd heddiw, dwi’n dal i ddadbacio’r freuddwyd pan dwi’n gwrando nôl iddi.”