‘Byth yn Blino’ yn gollwng gan Talulah

Mae Talulah wedi rhyddhau ei sengl gyntaf ar label Recordiau I KA CHING ers dydd Gwener diwethaf, 21 Ebrill. 

‘Byth yn Blino’ ydy enw’r trac newydd sydd wedi gollwng gan y canwr, cyfansoddwr a DJ o Ogledd Cymru. 

Mae Talulah yn creu cyfuniadau o genres ac ymasiadau o jazz, synau clasurol a lleisiau niwlog. 

Cafodd Talulah ei henwi ymysg yr artistiaid i’w gwylio yn 2023 mewn darn arbennig gan ohebydd Y Selar, Gruffudd ab Owain, ar ddechrau’r flwyddyn ac maent yn creu synhwyrau melodaidd sydd wedi’u gwreiddio mewn traddodiadau emynyddol Cymru o fewn offeryniaeth grŵf. Maent yn dawnsio rhwng genres gyda harmonïau disglair a llinellau bas chwareus. 

Mae ‘Byth yn Blino’ yn gynhyrchiad sydd wedi’i wreiddio mewn mynegiant o gariad queer. O gariad cymunedol i gariad personol, mae’r sengl yn mynegi’r ymdeimlad egnïol y mae solidariaeth a chysylltiad yn gallu darparu. 

Mae’r fideo sy’n cyd-fynd â ‘Byth yn Blino’ ar gael i’w gwylio ar wefan Klust. Fideo wedi’i gefnogi gan Gronfa Fideos Lŵp x PYST.

Dyma’r fideo: