Mae’r cerddor a chynhyrchydd Groegaidd/Cymreig, Minas, wedi rhyddhau ei sengl gyntaf erioed yn yr iaith Gymraeg.
‘Ddoe’ ydy enw’r trac newydd gan Minas sydd allan ar label Recordiau Libertino.
Mae’r sengl yn glanio yn ystod cyfnod cyffrous i Minas, gyda’i albwm cyntaf ‘All My Love Has Failed Me’ wedi’i gynnwys ar restr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2023 a hefyd ei fod ar fin cefnogi Benefits ar eu taith o gwmpas y DU.
Dyma’r trac cyntaf i’r cerddor ryddhau yn yr iaith Gymraeg, ac mae’n egluro fod ei berthynas gyda’r iaith yn un gymhleth.
“Er es i ysgol Gymraeg, roedd fy mherthynas gyda’r iaith yn eithaf gwael” meddai Minas.
“Roeddwn yn cysylltu’r iaith gyda’r ysgol, cyfnod trawmatig yn fy mywyd, ac felly nes i roi’r gorau i’w siarad yn gyfan gwbl am rai blynyddoedd. Dwi’n falch o ddweud nawr fodd bynnag, fy mod wedi bod yn siarad mwy o Gymraeg dros y flwyddyn ddiwethaf, yn rhannol oherwydd dwi o gwmpas mwy o siaradwyr Cymraeg.”
“Mae’r ffaith fod y Gymraeg yn cychwyn tyfu eto yn rhywbeth arbennig iawn. Mae’n ein cysylltu ni gyda’n diwylliant ni’n hunain, un sydd wedi’i bygwth sawl gwaith dros y blynyddoedd. Felly mae’r gân yma’n rhyw fath o werthfawrogiad am fy hunaniaeth Gymreig ac yn diolch i’r rheiny sydd wedi gwneud imi ddeall pwysigrwydd yr iaith.”
Mae fideo wedi’i greu ar gyfer y trac sydd i’w weld ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C.
“Bues i’n ddigon ffodus hefyd i gael fideo wedi’i chreu gan dîm Lŵp i fynd law yn llaw â’r trac” meddai Minas.
“Rwy’n falch o fod yn Gymro, er doeddwn i ddim bob amser yn teimlo hynny. Mae’r gân (a’r fideo) yn ymwneud â theimlo’n flin, a’r holl emosiynau negyddol sy’n dod gyda sylwi dy fod yn brifo’r bobl sydd agosaf i ti”.
Dyma’r fideo sydd wedi’i gyfarwyddo gan Ynyr Morgan Ifan: