Bydd y canwr-gyfansoddwr profiadol Gai Toms yn perfformio sioe arbennig ar ddwy noson yn unig yn ystod mis Tachwedd eleni.
‘CARU OK’ ydy enw’r sioe fydd yn gweld Gai yn perfformio yng nghwmni ei fand ‘Yr Atoms’, gydag un gig ym Mhwllheli, ac un arall yng Nghaernarfon.
Bydd Gai yn perfformio dau set fel rhan o’r sioe. Bydd y set cyntaf yn berfformiad un dyn o ganeuon coll y cyfnod clo – ‘Gonestrwydd – Galar – Goroesi’.
Bydd ei fand, Yr Atoms, yn ymuno ar gyfer yr ail set a pherfformiad arbennig o ganeuon ei albwm diweddaraf, ‘Baiaia!’ ynghyd ag ambell glasur o’i ôl-gatalog.
Neuadd Dwyfor ym Mhwllheli fydd lleoliad y gig cyntaf ar 10 Tachwedd, gydag ail gig i ddilyn bythefnos yn ddiweddarach yn y Galeri, Caernarfon ar 24 Tachwedd. Mae tocynnau ddau gig ar werth nawr.
Ers y clo mawr mae Gai Toms wedi bod yn gynhyrchiol iawn ac wedi cyfansoddi digon o ddeunydd ar gyfer sawl albwm.
Mae un o’r albyms hynny ‘Baiaia!’ eisoes wedi glanio ers 28 Gorffennaf eleni ac yn cynnwys deg o ganeuon egnïol. Bu i Gai gigio’r albwm hwnnw’n llwyddiannus gan gynnwys perfformiadau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.
Er bod ‘Baiaia!’ wedi gweld golau dydd felly mae gweddill y caneuon a gyfansoddwyd ganddo dros y cyfnod clo wedi parhau dan glo, hyd yma.
Collod Gai Toms ei fam, Gwenda, ym mis Ebrill 2020. Cafwyd angladd gyda 10 o bobl, a hynny oherwydd rheolau’r cyfnod clo. Yn gyfansoddwr o fri, caeodd Gai ei hun yn ei stiwidio i ymateb yn greadigol i’r golled, a hynny mewn cyfnod dyrys dros ben.
Mae CARU OK yn daith teimladwy o onestrwydd a galar, i ryddid a phosotifrwydd ‘Baiaia!’ a bydd y ddau wrthbwynt i’w gweld ochr yn ochr ar lwyfan yn ystod gigs ‘CARU OK!’.