Carwyn Ellis  yn rhyddhau ‘Llythr y Glowr’

Mae Carwyn Ellis wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 17 Tachwedd. 

Cyfieithiad Cymraeg o’r gân ‘In Your Memory’ yw ‘Llythr y Glowr’, a ymddangosodd yn wreiddiol ar albwm 2017 Colorama, ‘Some Things Just Take Time’. Er mai ar YouTube a Bandcamp yn unig oedd y trac yn ymddangos bryd hynny, mae wedi dod yn ffefryn gyda DJs a gwrandawyr BBC Radio Cymru dros y blynyddoedd ers hynny. 

Mae’r gân wedi’i ysgrifennu fel llythyr gan löwr sydd wedi’i ddal dan ddaear, ac yn erfyn ar ei gariad i barhau â’i bywyd hebddo, er iddi beidio byth â’i anghofio.

Mae’r gerddoriaeth yn cynnwys lleisiau o gôr Côrdydd yn ogystal â’r ffidil arbennig gan Emma Smith (Bas Jan / Jarvis Cocker / Pulp), ac mae ar gael ar y llwyfannau digidol arferol.

Bydd y trac hefyd yn ymddangos ar ‘Ni A Nhw’, casgliad newydd o ganeuon gan Carwyn Ellis fydd ar gael ar y llwyfannau digidol  am y tro cyntaf ar ddydd Gwener 8 Rhagfyr drwy Recordiau Bubblewrap. 

Mae rhan helaeth o’r traciau sydd ar y casgliad hwn yn rai Cymraeg ac wedi eu tynnu o gatalog pedair pennod Carwyn sy’n cynnwys y bandiau Colorama, Rio 18 a Bendith ynghyd a’r gerddoriaeth mae wedi rhyddhau dan ei enw ei hun. 

Bydd ‘Ni A Nhw’ hefyd ar gael ar ffurfiau feinyl a CD, ac maent ar gael i’w rhag-archebu nawr drwy wefan label Bubblewrap a thudalen Bandcamp Carwyn Ellis, cyn i’r casgliad cyfan ddod allan yn ddigidol ar 8 Rhagfyr.