Mae label Recordiau Sain wedi rhyddhau albwm aml-gyfrannog newydd sbon o siantis a chaneuon morwrol gyda chyfraniadau gan rai o artistiaid gwerin amlycaf Cymru.
Ymysg yr artistiaid sydd i’w clywed ar y casgliad ‘Mae’r Tonnau’n Tynnu’ mae Gwilym Bowen Rhys, Lleucu Gwawr, Côr Meibion Carnguwch, Meinir Gwilym a Gwenan Gibbard, Iwan Huws, Einir Humphreys, Elidyr Glyn, Gethin Griffiths, Côr yr Heli, Cynefin, Dewi ‘Pws’ Morris, Lowri Evans, Twm Morys a Gwyneth Glyn, Hogia Llanbobman a Mair Tomos Ifans.
Mae’r siantis yn rhan ganolog o’n traddodiad gwerin cerddorol ni bellach, er mai caneuon gweddol ddiweddar ydi’r mwyafrif ohonynt. J Glyn Davies, un a fagwyd yn Lerpwl ond a dreuliodd hafau ei blentyndod yng nghartref y teulu ym mhentref Edern ym Mhen Llŷn, fu’n gyfrifol am eu casglu ynghyd a’u poblogeiddio – caneuon oedd rhain a glywodd gan forwyr yng Nghymru ac yn nhafarn y Welsh Harp yn Lerpwl ac yn ystod ei gyfnod yntau ar y môr. Ysgrifennodd eiriau Cymraeg ar eu cyfer ac anfarwolodd y bywyd morwrol Cymreig gan greu rhyw swyn a hudoliaeth arbennig drwy briodas berffaith rhwng gair ac alaw.
Prin yw’r caneuon morwrol traddodiadol, er bod ambell un i’w cael, ond bellach mae caneuon cyfrolau J Glyn Davies, ‘Cerddi Huw Puw’ a ‘Cerddi Portinllaen’, yn greiddiol i’n treftadaeth gerddorol. Caneuon gwaith y morwyr oeddynt wrth gwrs, caneuon i gynorthwyo’r morwyr gyda’r gwaith ar fwrdd y llong a’r canu rhythmig yn aml yn gymorth i gadw amser wrth drampio o amgylch y capstan neu wrth halio’r rhaffau neu godi’r angor.
Erbyn hyn maent yn cynrychioli’r hen ffordd o fyw a phwysigrwydd y môr ym mywyd bob dydd trigolion ardal Llŷn yn arbennig. Daw’r alawon yn aml o bob rhan o’r byd, gan adlewyrchu’r teithio helaeth a fu o’r rhan fach hon o Gymru i bellafoedd byd a’r modd y mae’r sianti, yn fwy nag unrhyw fath arall o gân draddodiadol efallai, yn rhyngwladol o ran ei hanes cerddorol.
Ond perthyn y traddodiad morwrol hefyd i Fôn ac Arfon, Meirionnydd, Ceredigion, Sir Benfro a gweddill arfordir Cymru ac mae’r albwm hwn yn dangos eto fyth boblogrwydd y siantis a’r caneuon môr yng Nghymru heddiw. Mae’r cyfan yn y caneuon hyn – hiraeth, hwyl a throeon trwstan, straeon a chwedlau, cofnodion hanesyddol, colled a thrallod a rhamant y tonnau sy’n tynnu’n barhaus, a’u hapêl yn ysbrydoli caneuon o’r newydd o hyd.