Mae Catrin Herbert wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf dan yr enw ‘Cerrynt’.
Mae’r trac newydd allan ar label JigCal ac mae’n ddilyniant i’r sengl hafaidd ‘Dere Fan Hyn’ a’r gân Nadoligaidd ‘Nadolig ‘Da Fi’ a ryddhawyd yn Rhagfyr 2021.
Mae Catrin yn gyfarwydd am ei halawon bachog a chytganau cofiadwy gyda ‘Disgyn Amdana Ti’ ac ‘Ar y Llyn’ yn ffefrynnau ar y tonfeddi ers blynyddoedd. Er hynny, mae naws ‘Cerrynt’ ychydig yn wahanol i’r hyn rydym wedi clywed ganddi yn y gorffennol.
Gyda ‘Cerrynt’, mae Catrin yn dathlu ei chariad at gerddoriaeth bop, gan gymryd ysbrydoliaeth gan rai o’i hoff artistiaid a chynhyrchwyr gan gynnwys Taylor Swift a Jack Antonoff, Maggie Rogers, Troye Sivan a Haim.
Mae hefyd yn arbrofi gyda dylanwadau electronig gyda Mei Gwynedd o label JigCal. Mae’n plethu ysgrifennu amrwd, didwyll gyda chynhyrchu egnïol a chytganau bachog.
Er mai nawr mae’n rhyddhau’r trac fel sengl, ysgrifennodd y gantores o Gaerydd ‘Cerrynt’ sawl blwyddyn yn ôl. Mae hi’n gân bersonol, emosiynol, sydd wedi cymryd sbel iddi deimlo ei bod hi’r amser iawn i’w rhannu.
“Mae Cerrynt yn gân bop bywiog, am deimlad ofnadwy” meddai Catrin.
“Mae am y profiad o wybod fod rhywbeth yn anghywir, ond teimlo’n ddiymadferth i newid y peth. Y teimlad na fedri di atal emosiwn gan dy fod di’n rhy ddwfn i mewn i’r sefyllfa i droi ‘nôl. O drio dal gafael, yn ofer, i berthynas sydd wedi ei cholli ers amser.”